Roedd y galw am geir newydd wedi gostwng 34.9%  ym mis Mehefin, yn ôl y corff sy’n cynrychioli’r diwydiant ceir.

Dim ond 145,377 o geir newydd gafodd eu cofrestru fis diwethaf o’i gymharu â 223,421 yn ystod mis Mehefin y llynedd, yn ôl Cymdeithas Gwneuthurwyr a Masnachwyr Ceir (SMMT).

Yn ôl y corff mae’r gostyngiad o ganlyniad i economi ansefydlog a’r ffaith bod lleoliadau gwerthu ceir yng Nghymru a’r Alban wedi parhau ar gau am y rhan fwyaf o’r mis yn sgil cyfyngiadau’r coronafeirws.

Mae bron i 616,000 yn llai o geir newydd wedi cael eu gwerthu yn chwe mis cynta’ 2020 o’i gymharu â’r un cyfnod y llynedd.

Mae prif weithredwr SMMT, Mike Hawes, wedi galw ar y Llywodraeth i hybu’r economi er mwyn gwneud i gwsmeriaid deimlo’n fwy hyderus yn eu swyddi a’u gwariant a rhoi’r hyder i fusnesau fuddsoddi mewn ceir newydd.

“Os na fydd hynny’n digwydd fe allai’r sector hanfodol yma golli biliynau mewn refeniw ar adeg pan mae’r cyhoedd ei hangen yn fwy nag erioed,” meddai.