Mae Cyngor Gwynedd yn chwilio am berchennog newydd ar gyfer ffatri Northwood Hygiene Products, yn ol y Cynghorydd Gareth Thomas.

Daeth cyhoeddiad ar Fai 26 y byddai’r ffatri yn Nyffryn Nantlle, sy’n cyflogi 94 o bobol, yn cau o ganlyniad i gwymp sylweddol mewn gwerthiant yn sgil y coronafeirws.

“Er ei bod yn gyfnod heriol, byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i hwyluso unrhyw bosibilrwydd o adnabod perchennog newydd ar gyfer y safle a allai ddenu swyddi yn y dyfodol,” meddai Gareth Thomas sy’n Aelod Cabinet Datblygu’r Economi a Chymuned y cyngor.

“Fel Cyngor, rydym wedi cynnal trafodaethau cyson gyda’r cwmni dros yr wythnosau diwethaf er mwyn ceisio annog parhad cynhyrchu ym Mhenygroes.

“Ond mae’n amlwg fod y pandemig Coronafeirws wedi cael effaith sylweddol ar farchnadoedd Northwood yn y sector hamdden a manwerthu.

“Mae hyn yn newyddion trist ac yn ergyd i’r ardal.

“Byddwn yn canolbwyntio ein hymdrechion rwan i weithio gyda Llywodraeth Cymru a’r Adran Gwaith a Phensiynau i sicrhau cefnogaeth i’r gweithwyr.”

Er i 2,000 o bobol arwyddo deiseb yn galw ar y cwmni i ailystyried, ac i gymuned Dyffryn Nantlle gynnal protest i ddangos eu cefnogaeth i weithwyr, daeth cadarnhad dydd Iau diwethaf (Gorffennaf 2) byddai’r ffatri yn cau erbyn yr Hydref.

“Newyddion trist iawn”

Dywedodd y Cynghorydd Judith Humphreys, sy’n cynrychioli Penygroes: “Mae cyhoeddiad Northwood yn newyddion trist iawn i Benygroes ac ardal Dyffryn Nantlle yn ehangach.

“Byddaf yn canolbwyntio fy ymdrechion am y cyfnod nesaf i sicrhau fod y 94 aelod o staff yn cael y gefnogaeth sydd ei angen gan yr awdurdodau perthnasol yn ystod y cyfnod heriol yma, ac yn parhau i archwilio unrhyw fodelau neu opsiynau posib eraill ar gyfer y safle i’r dyfodol.”