Darganfuwyd broga coed egsotig mewn sypyn o fananas gan staff archfarchnad ar ôl iddo deithio 5,000 o filltiroedd o Colombia i dde Cymru.
Daethpwyd o hyd i’r broga yn siop Asda yn Stryd Murray, Llanelli, ddydd Llun diwethaf, Mehefin 29.
Colombia yw cyflenwr bananas mwyaf ym Mhrydain, gyda channoedd o filoedd o dunelli o’r ffrwythau yn gwneud y daith bob blwyddyn.
Mae’r broga, sydd wedi ei enwi yn Asda, bellach wedi ei drosglwyddo i ganolfan anifeiliaid arbenigol ‘Silent World To You’ yn Hwlffordd.
Dywedodd Ginny spenceley, o ‘Silent World to you’ nad oedd yn anghyffredin i frogaod neu gorynod “daro reid” mewn ffrwythau gan nad ydyn nhw’n cael eu chwistrellu na’u trin mwyach.
Meddwl cyflym
Canmolodd Gemma Cooper, arolygydd yr RSPCA, staff siop Asda am gadw’r broga’n ddiogel.
“Ry’n ni mor ddiolchgar i aelodau tîm Asda a gysylltodd â ni,” meddai.
“Roedd un aelod o’r tîm wedi gweld y broga, tra bod arall wedi ei ddal a mynd ag ef adref.
“Roedd y meddwl cyflym hwn wedi helpu i gadw’r broga’n ddiogel.
“Diolch byth, mae taith ryfeddol y broga’n dod i ben yn hapus” meddai, “gyda’r dyn bach yn saff ac yn iach mewn cyfleuster arbenigol yn Sir Benfro.”