Mae teyrngedau wedi cael eu rhoi i’r gwyddonydd uchel ei barch, yr Athro Glyn O Phillips a farw ddoe, (Dydd Sul, Gorffennaf  5), yn 92 mlwydd oed.

Roedd yr Athro Glyn O Phillips, yn wreiddiol o Rhosllannerchrugog, yn arbenigwr ar y diwydiant niwclear ac fe gyhoeddodd nifer fawr o lyfrau ar y maes.

Ef oedd enillydd cyntaf Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 2004 yng Nghasnewydd ac yn y flwyddyn flaenorol fe sefydlwyd Canolfan Ymchwil Glyn O Phillips ym Mhrifysgol Glyndwr, Wrecsam.

Yn ogystal a hyn, enwyd canolfan ar ei ôl ym Mhrifysgol Technoleg Hubei yn Tsieina.

“Arloeswr yn ei faes”

“Ry’n ni’n cydymdeimlo’n arw â theulu’r Athro Glyn O Phillips heno,” meddai’r Eisteddfod Genedlaethol mewn teyrnged ar Twitter.

“Gwyddonydd arbennig iawn a anrhydeddwyd gyda Medal Wyddoniaeth gyntaf yr Eisteddfod yn 2004.

“Byddwn yn ei gofio fel arloeswr yn ei faes ac fel un a wnaeth gymaint dros wyddoniaeth yng Nghymru.”

Mae’n gadael gwraig, dau o blant, tri o wyrion ac un gor-ŵyr.