Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am wybodaeth ar ôl i ddyn ddioddef anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiad beic modur brynhawn dydd Sul, Gorffennaf 5.

Digwyddodd y gwrthdrawiad ar ffordd ger fferm Bron Miod yn Llanaelhaearn, Gwynedd ychydig cyn 3.19 y prynhawn.

Cafodd y beiciwr modur, dyn lleol 31 oed, ei gludo mewn hofrennydd o’r safle i’r ysbyty yn Stoke lle mae mewn cyflwr difrifol.

“Rwy’n apelio am unrhyw un a allai fod wedi bod yn dyst i’r gwrthdrawiad oedd yn ymwneud â cherbyd oddi ar y ffordd, neu sydd ag unrhyw recordiad camera cerbyd o’r ffordd ar y pryd i gysylltu â’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod Y095831,” meddai’r Rhingyll Meurig Jones.