Mae’r cyfansoddwr Eidalaidd Ennio Morricone wedi marw yn 91 oed.
Roedd yn adnabyddus am gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer mwy na 500 o ffilmiau gan gynnwys The Good, the Bad and the Ugly, The Mission a Cinema Paradiso.
Fe fu farw yn Rhufain ar ôl cael cwymp wythnos ddiwethaf.
Fe enillodd lu o wobrau gan gynnwys Oscar am gyfansoddi’r gerddoriaeth ar gyfer ffilm Quentin Tarantino, The Hateful Eight yn 2015.
Roedd yn fwyaf enwog am ei gerddoriaeth ar gyfer ffilmiau Western Sergio Leone fel A Fistful of Dollars, a For a Few Dollars More.
Roedd Ennio Morricone hefyd wedi cyfansoddi Chi Mai ar gyfer y ddrama BBC The Life and Times of David Lloyd George yn 1981.