Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £1.57 biliwn i “ddiogelu” dyfodol amgueddfeydd, orielau a theatrau Prydain.

Mae’r cyllid hefyd yn cynnwys arian ar gyfer y gwledydd datganoledig. Bydd Cymru’n derbyn £59 miliwn, yr Alban yn cael £97 miliwn, a bydd £33 miliwn ar gael i Ogledd Iwerddon.

Llywodraeth Cymru fydd yn penderfynu sut mae’r £59m yn cael ei wario o fewn y Celfyddydau yng Nghymru, ond nid oes amlinelliad o’r cynllun wedi ei gyhoeddi eto.

Daw’r pecyn ar ôl i rai theatrau gau, gan ddiswyddo staff, yng nghanol y pandemig.

Ar eu colled

Mae’r sector gelfyddydau yng Nghymru yn colli miliynau o bunnoedd bob mis dan gysgod covid-19, yn ol Cyngor Celfyddydau Cymru.

Ym mis Mehefin, dywedodd Cyngor Celfyddydau Cymru fod y cyrff sy’n cael eu hariannu ganddyn nhw yn colli tua £1.4miliwn yr wythnos yn sgil cau lleoliadau a chanslo perfformiadau.

Mae cronfa £7.5 miliwn eisoes wedi ei sefydlu i gefnogi cyrff celfyddydol, ac yn ôl Cyngor Celfyddydau Cymru roedd gwerth £4m o geisiadau eisoes wedi’u cynnig ym mis Mehefin.

Mae’n bosib y bydd un o adeiladau mwyaf eiconig Caerdydd, Canolfan Mileniwm Cymru, yn colli £20m yn ystod y flwyddyn ariannol hon.

“Rhy ychydig, yn rhy hwyr”

“Bydd yr arian hwn yn helpu i ddiogelu’r sector ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol,” meddai’r Prif Weinidog Boris Johnson, “gan sicrhau y gall grwpiau celfyddydol a lleoliadau ledled Prydain aros ar eu traed a chefnogi eu staff tra bydd eu drysau’n parhau ar gau a llenni’n aros i lawr.”

Dywedodd y Canghellor Rishi Sunak fod y sectorau celfyddydau a threftadaeth yn cyflogi dros 700,000 o bobl a’u bod yn “hanfodol” i economi Prydain.

Ond yn ôl Ysgrifennydd Llafur yr Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, Jo Stevens, er ei bod yn croesawu’r arian “sydd ei angen yn fawr”, roedd yn “rhy ychydig, yn rhy hwyr” i lawer.