Mae Prif Weinidog Cymru wedi annog ymwelwyr i’r wlad i ymddwyn yn “gyfrifol a diogel” wrth i’r cyfyngiadau teithio gael eu llacio heddiw (dydd Llun, Gorffennaf 6).

Fe fydd pobl yn gallu teithio ymhellach na phum milltir wrth i’r rheol “aros yn lleol” ddod i ben.

Mae’n golygu y bydd ymwelwyr yn cael teithio i Gymru a theithio o amgylch y wlad am y tro cyntaf ers i’r cyfyngiadau ddod i rym ym mis Mawrth.

Fe fydd atyniadau awyr agored hefyd yn ail-agor gan arwain y ffordd at groesawu ymwelwyr yn y sector twristiaeth o Orffennaf 11, os yw’r amodau yn caniatáu hynny.

Hefyd, bydd modd i ddau gartref gwrdd dan do o heddiw ymlaen gan roi cyfle i deuluoedd ddod ynghyd unwaith eto.

Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddydd Sul (Gorffennaf 5) bod un person wedi marw ar ôl cael prawf positif am y coronafeirws gan ddod a chyfanswm y marwolaethau yma i 1,531. Mae nifer y bobl sydd wedi cael prawf positif yng Nghymru wedi cynyddu 15 i 15,890.

“Parch”

“Rydyn ni’n byw mewn rhan mor brydferth o’r byd dw i’n gwybod y bydd nifer ohonon ni yn edrych ymlaen at ymweld â’r traethau, cefn gwlad a nifer o’n hatyniadau,” meddai’r Prif Weinidog Mark Drakeford.

“Mae pobl led led Cymru wedi gwneud cymaint dros y misoedd diwethaf i ddilyn y canllawiau a helpu i atal lledaeniad y coronafeirws – rwy’n diolch iddyn nhw am eu hamynedd. Rwy’n galw arnyn nhw i barhau yn yr un ysbryd.

“Yn anffodus dros yr wythnosau diwethaf, ry’n ni wedi gweld y canlyniadau pan nad yw pobl yn trin rhannau o Gymru gyda pharch, gyda thorfeydd yn gadael llwyth o sbwriel ar eu holau.

“Mae’r ymddygiad hunanol yma yn anharddu ein mannau prydferth ac yn rhoi pobl mewn perygl. Tra bod nifer o lwybrau troed a meysydd parcio yn ail-agor, ni fydd yr holl gyfleusterau ar gael ym mhob un o’r lleoliadau yn syth.”

“Cynllunio o flaen llaw”

Mae lletyau hunangynhwysol yn paratoi i ail-agor ar Orffennaf 11 ac mae Mark Drakeford wedi annog ymwelwyr i wirio gwefannau lle mae hynny’n bosib a chynllunio o flaen llaw a gwneud trefniadau eraill os yw’r lleoliad yn rhy brysur pan maen nhw’n cyrraedd.

“Nid yw’r coronafeirws wedi mynd, a tra bod y dystiolaeth yn dangos bod y risg tu allan yn is, mae risg o hyd. Ry’n ni felly angen parhau i ymddwyn yn gyfrifol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cyd-weithio gydag awdurdodau lleol, parciau cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru a thirfeddianwyr i sicrhau bod y wlad yn barod i groesawu ymwelwyr.

Mae canllawiau newydd ar gyfer defnyddio toiledau cyhoeddus, gyda’r ffocws ar lanweithdra, ymbellhau’n gymdeithasol, a chiwiau, ond ni fydd yr holl gyfleusterau yn ail-agor.

Dywedodd Tegryn Jones, prif weithredwr Awdurdod Parc Cenedlaethol Sir Benfro eu bod yn annog y rhai sy’n dewis dod i Sir Benfro yn ystod yr wythnosau a misoedd nesaf “i wneud hynny gyda pharch – i’r bobl a’r bywyd gwyllt.”

Fe fydd adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru yn ystyried nifer o opsiynau gan gynnwys ail-agor bariau a bwytai tu allan o Orffennaf 13 a lletyau hunangynhwysol o Orffennaf 11. Fe fyddan nhw hefyd yn penderfynu a oes modd i siopau trin gwallt ail-agor drwy apwyntiad yn unig.