Nid yw’r gefnogaeth gyhoeddus i’r undeb gwleidyddol rhwng yr Alban a Lloegr erioed wedi ymddangos mor wan ag y mae wedi bod dros y chwe mis diwethaf.
Dyma yw dyfarniad yr arbenigwr gwleidyddol, yr Athro Syr John Curtice, wrth i arolwg barn gan Panelbase yn y Sunday Times heddiw ddangos cefnogaeth o 54% o blaid a 46% yn erbyn annibyniaeth.
Mae’r un arolwg yn dangos sgôr gadarnhaol o 60 pwynt yn y gefnogaeth i Nicola Sturgeon yn y ffordd mae wedi ymdrin â’r argyfwng coronafeirws, o gymharu â sgôr gyfatebol o minws 39 pwynt i Boris Johnson.
“Mae cyfartaledd poliau Panelbase dros y chwe mis diwethaf, gan gynnwys un heddiw, wedi rhoi ‘ie’ ar 51% a ‘na’ ar 49%,” meddai Syr John Curtice.
“Dyma’r tro cyntaf mewn hanes arolygon barn i’r gefnogaeth i annibyniaeth fod ar y blaen yn gyson am gymaint o hyd.
“Mae’r gefnogaeth i annibyniaeth i fyny dri phwynt ar yr hyn a gofnodwyd ar gyfartaledd y llynedd – a chwe phwynt i fyny ar 2018.”
Cafodd 1,026 o bleidleiswyr eu holi yn yr Alban rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener ar gyfer yr arolwg, sydd hefyd yn dangos cefnogaeth uwch nag erioed i’r SNP.
Mae’n awgrymu y byddai’r SNP yn ennill 74 allan o 129 o seddau Senedd yr Alban.
Wrth ymateb i’r arolwg, meddai dirprwy arweinydd yr SNP, Keith Brown:
“Ar sail y gefnogaeth gyson hon, mae’n amhosibl i lywodraeth Prydain warafun yr hawl i’r Alban gael dewis am ei dyfodol.
“Mae’r llywodraeth Dorïaidd hon yn cynrychioli’r Undeb ar ei waethaf, ac efallai mai Boris Johnson yw’r recriwtiwr gorau dros annibyniaeth i’r Alban ers Margaret Thatcher.”