Bydd Canolfan y Mileniwm yn aros ar gau tan fis Ionawr 2021 yn sgil pandemig y coronafeirws.
Dywed y Ganolfan nad oes modd iddyn nhw gynnal perfformiadau yno tra bod mesurau ymbellhau cymdeithasol mewn grym.
Fe allai hyn effeithio ar hyd at 250 o swyddi i gyd, ac mae 85 o staff parhaol mewn perygl o gael eu diswyddo.
Bydd y cau hefyd yn cael effaith ar waith y 300 o wirfoddolwyr sydd gan y Ganolfan, ac yn effeithio ar artistiaid lleol a llawrydd.
Mae’r holl sioeau hyd at Ionawr 17 wedi cael eu canslo neu eu gohirio ond mae’r Ganolfan yn dweud eu bod yn “gweithio’n galed gyda chynhyrchwyr i aildrefnu dyddiadau lle bo’ hynny’n bosib.”
Colli 85% o’i hincwm dros nos
Collodd Canolfan y Mileniwm 85% o’i hincwm dros nos pan gaeodd ei drysau a dywed eu bod yn gweithredu er mwyn “sicrhau ein dyfodol.”
“Doedd hwn ddim yn benderfyniad hawdd,” meddai Mathew Milsom, Cyfarwyddwr Canolfan y Mileniwm.
“Bydd yn effeithio ar ein staff, ein gwirfoddolwyr, ein gweithwyr llawrydd, ein cymuned, y bobl ifanc rydyn ni’n gweithio gyda nhw, ein cyflenwyr, heb anghofio’r 1.6 miliwn o ymwelwyr sy’n mwynhau dod i’r adeilad bob blwyddyn.
“Tra byddwn ni ar gau, fe wnawn ni bopeth allwn ni i gadw’n gwaith artistig ac elusennol i fynd, ac i sicrhau ein bod ni’n barod ar gyfer ailagor cyn gynted ag y bydd hynny’n ymarferol bosib.
“Dydyn ni ddim yn gwybod pryd fydd hynny, ond rydyn ni’n edrych ymlaen at gael parhau i danio’r dychymyg am genedlaethau i ddod.”