Mae cwmni batris ceir yn ystyried agor ffatri yn ne Cymru gan greu o leia’ 3,500 o swyddi.

Mae Britishvolt wedi bo yn ystyried 42 o safleoedd ledled y Deyrnas Unedig, a bellach mae wedi datgelu mai safle yn Sain Tathan, Bro Morgannwg, yw’r “ffefryn”.

“Wedi chwe mis o ddadansoddi gofalus, rydym wedi penderfynu mai Bro Tathan yw’r ffefryn – a hynny am sawl ffactor gwahanol,” meddai Prif Weithredwr Britishvolt, Lars Carlstrom.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi croeso cynnes i ni, ac wedi dangos eu bod yn gydwybodol, ac mae’r ardal yn cwrdd â sawl un o’n gofynion.

“Mae modd i fewnforion ac allforion lifo oddi yno, mae llafur a staff â sgiliau yn yr ardal, ac mae’n agos at gwsmeriaid a chwmnïau diwydiannol lleol.”

Yn siarad â’r BBC, mae’r cwmni wedi awgrymu gallan nhw greu hyd at 4,000 swydd.

Mae Sain Tathan eisoes yn gartref i ffatri ceir trydanol Aston Martin, a chafodd y safle hwnnw ei agor yn llawn ar Ragfyr 2019.

Isadeiledd

Mae Russell George, Aelod Ciedwadol o’r Senedd, wedi croesawu’r newyddion, ac yn dadlau bod hyn yn cryfhau’r angen i wella ffyrdd a rheilffyrdd yng Nghymru.

“Pe bai Britishvolt yn adeiladu ei ffatri yma, byddai angen ailystyried y prosiectau isadeiledd yma er mwyn caniatáu hwb i’r economi  – ac mae angen mawr am y fath hwb,” meddai.

“Trwy wneud hyn, mae modd symud rhannau i’r ffatri yn hawdd, ac mae modd symud cynnyrch ohono mewn modd effeithiol.”