Heddiw (dydd Gwener, Mehefin 12) mae pobol ar draws Cymru yn dathlu Dydd Crysau-T Bands Cymru drwy rannu lluniau o’u hoff grysau a defnyddio’r hashnod #dyddcrysautbandscymru.

Trefnwyd y diwrnod gan y cyflwynydd radio Huw Stephens, sy’n dweud ei fod wedi cael y syniad er mwyn cefnogi artistiaid Cymraeg gan nad oes modd iddynt drefnu gigs ar hyn o bryd.

“Y gobaith ydi bydd hen grysau-T yn cael eu gwisgo, bydd yn gyfle i ni weld be sydd gan bobol,” meddai Huw Stephens.

“Ond hefyd i ni brynu crysau-T gan fandiau newydd, i gefnogi nhw a gwaith dylunwyr newydd.

“Mae’n gyfle i gefnogi cerddoriaeth o Gymru drwy wisgo crysau-T. Roedd diwrnod tebyg yn Awstralia ryw ddeufis yn ôl, a wnaeth e daro fi bod llwyth o grysau-T allan yna, hen a newydd.”

O ran hoff grys-T Huw Stephens, mae’n dweud mai’r “clasur” gan y Super Furry Animals gyda’r gair ‘FURRIES’ yw ei ffefryn.

Hwb i fandiau

Un dylunydd sy’n creu crysau-T yw Steffan Dafydd, canwr y band Breichiau Hir, ac mae wedi dweud wrth golwg360 beth mae o’n hoffi am grysau-T bandiau Cymraeg.

“Tydyn nhw ddim yn gorfod bod mor o ddifri â gwaith celf yr albyms – ti’n gallu cadw fo’n hwyl a pheidio cymryd dy hun rhy o ddifrif. Mae’n lot mwy o hwyl,” meddai.

Ac mewn cyfnod lle nad yw bandiau yn gallu gigio, dywed Steffan Dafydd bod gwerthu crysau –T yn hwb mawr i fandiau.

“Mae’n lot o help ac yn ffordd hawdd i fandiau gael incwm, dyna pam mae bandiau o amgylch y byd yn gwneud crysau-T.

“Mae Dydd Crysau Bands Cymraeg yn syniad anhygoel i hybu bandiau a chael pobol i’w cefnogi.”

O ran crysau-T cofiadwy, mae Steffan Dafydd yn dweud mai ei hoff un oedd “hen grys Datblygu, ond dw i wedi ei golli erbyn hyn.”

Rhys Mwyn

Mae Rhys Mwyn, y DJ a’r pync rocar chwedlonol, yn dweud mai ei hoff grys-T yw un gan fand o’r 1980au.

Prif aelodau Traddodiad Ofnus oedd Mark Lugg a Gareth Potter ac fe wnaethon nhw gyhoeddi’r albym Welsh Tourist Bored.

“Dw i wedi dewis [crys-T] Traddodiad Ofnus, y band ddaru bontio rhwng pync a dawns… a’r crys-T ydi Welsh Tourist Bored,” meddai Rhys Mwyn.

Ffarout

 Yn driw i’w enw, hoff grys Osian Eryl, y dyn ifanc sy’n cynnal cronfa anferthol o berfformiadau bandiau Cymraeg dan yr enw ‘Ffarout’ ar Trydar a Youtube, yw crys-T ‘Ffarout’ gan y band Ffa Coffi Pawb o 1992.

“Roeddwn i wrth fy modd i ffeindio crys gwreiddiol Ffa Coffi pawb ychydig o flynyddoedd yn ôl,” meddai Osian Eryl.

“Mae’n debyg fod hwn wedi dod o Cob Records Bangor wedi i Gruff Rhys fod yn rhoi nhw allan yna.”

Gruffydd Wyn Owen

Un arall sydd wedi bod yn sôn wrth golwg360 am ei hoff grys-T ydi pennaeth label recordiau Libertino, Gruffydd Wyn Owen.

Dywed mai crys-T Ffa Coffi Pawb yw ei ffefryn.

“Rwyf wedi dewis clasur fel fy nghrys-T i wisgo heddiw, Ffa Coffi Pawb,” meddai.

“Dw i’n meddwl mai hwn fydd y trydydd un o’r dyluniad yma sydd wedi bod gen i, [gan] un o’r bandiau gorau erioed. Hoff o’r cynllun – hawdd ond pwerus.”