Mae’r band Brigyn wedi cyhoeddi sengl newydd o’r enw ‘Gadael Bordeaux’ – a hynny bedair blynedd ers buddugoliaeth Cymru yn erbyn Slofacia yng ngêm gyntaf Ewro 2016.

Enillodd Cymru’r gêm honno yn Bordeaux o ddwy gôl i un, gan sbarduno taith anhygoel dynion Chris Coleman i’r rownd gynderfynol.

Ysgrifennodd y band y gân yn wreiddiol gyda’r Prifardd Rhys Iorwerth ac maent yn “teimlo bod rŵan yn amser da i ryddhau’r gân yn swyddogol”.

Mae golwg360 wedi cael caniatâd gan y band i rannu fideo arbennig sy’n cyd-fynd â’r gân.

Mae’r fideo yn cynnwys clipiau ffilm a lluniau gan gefnogwyr Cymru yn Ffrainc.