Mae elusen sy’n ceisio atal digartrefedd wedi canmol S4C am adael iddyn nhw hysbysebu eu gwasanaethau am ddim.

O’r wythnos nesaf ymlaen, bydd y Sianel Gymraeg yn dangos hysbysebion gan elusennau sy’n helpu pobol yn ystod cyfnod y pandemig.

Mi fydd S4C hefyd yn cynnig cannoedd o bunnau er mwyn talu am greu’r hysbysebion.

“Mae S4C yn cynnig cymhorthdal o hyd at £500 i helpu i gael yr hysbyseb ar yr awyr. Byddai modd cael hysbyseb syml am tua £500,” meddai llefarydd y Sianel wrth golwg360.

Elusen atal digartrefedd fydd un o’r cyntaf i fanteisio ar y cynnig.

“Mae’n wych bod S4C yn cydnabod pwysigrwydd gwaith elusennau yn ystod y pandemig hwn,” meddai Jennie Bibbings, Rheolwr Ymgyrchoedd Shelter Cymru.

“Rydym yn gwybod bod pobl yng Nghymru yn poeni am eu sefyllfa o ran tai a chartrefedd mewn cyfnod mor anodd, heb wybod at bwy i droi am gymorth.

“Felly rydym yn ddiolchgar i S4C am y cyfle i roi cyngor a chefnogaeth hollbwysig i’r bobl hynny sydd angen ein help i  sicrhau eu bod yn cael aros yn ddiogel yn eu cartrefi.”

Wythnos Iechyd Dynion

Elusen arall fydd yn elwa yw Amser i Newid Cymru, sy’n cynnal ymgyrch am iechyd meddwl dynion.

“Mae Amser i Newid Cymru yn hynod ddiolchgar i S4C am y cyfle hysbysebu hwn am ddim yn ystod Wythnos Iechyd Dynion,” meddai June Jones o Amser i Newid Cymru.

“Gall problemau iechyd meddwl effeithio ar unrhyw un ar unrhyw adeg ond rydyn ni’n gwybod bod dynion yn gyffredinol yn ei chael hi’n anoddach siarad am y pwnc hwn.

“Nod yr ymgyrch #MaeSiaradYnHollBwysig yw annog dynion yng Nghymru i siarad am eu hiechyd meddwl heb ofni cael eu barnu.

“Mae’n hen bryd i ni ofyn y cwestiwn am iechyd meddwl dynion, ‘Wyt ti’n iawn?’”

Cefnogi’r trydydd sector

“Ry’n ni’n falch iawn ein bod yn gallu cefnogi gwaith da y trydydd sector a sefydliadau sydd wedi eu heffeithio fwyaf gyda’r argyfwng hwn,” meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C.

“Mae 15 elusen hyd yn hyn yn elwa o gael gofod hysbysebu am ddim ar ein sianel, ac mae’n braf gallu arddangos gwaith allweddol amrediad eang o elusennau drwy hysbysebion ar S4C.”

Yn ystod y misoedd nesaf bydd yr elusennau canlynol yn cael dangos hysbysebion am ddim ar S4C: Tŷ Hafan, GISDA, Action for Elders, The Autism Directory, Bullies Out, Tenovus, Adferiad Recovery, WCADA, Hourglass Cymru, St John’s Cymru, WCVA, Awyr Las ac Ambiwlans Awyr Cymru.

“Gwahoddodd y sianel geisiadau gan elusennau a sefydliadau sydd wedi lleoli neu’n gweithredu ar lefel Cymreig ac yn cynnig cymorth i bobl yn ystod yr argyfwng,” meddai llefarydd y Sianel.

“Penderfynodd S4C hefyd  gynnig cyfraddau gostyngedig i gwmnïau yng Nghymru er mwyn hyrwyddo eu hymdrechion Covid.

“Ac er mwyn annog hysbysebu yn y Gymraeg mae’r sianel wedi penderfynu ymestyn ei gymhorthdal ar gyfer hysbysebion Cymraeg i’r cynllun.”