“Mae amser yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol.”

Dyna mae Helen Mary Jones wedi ei rybuddio wrth gyhoeddi adroddiad diweddaraf ei phwyllgor yn y Senedd.

Yn sgil cyfres o sesiynau tystiolaeth â chynrychiolwyr y sector, mae Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, wedi dod i’r casgliad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.

Mae llu o ddigwyddiadau, theatrau a chanolfannau wedi eu canslo a’u cau oherwydd yr argyfwng coronafeirws, ac ymateb i hynny yw’r adroddiad.

“Hyd nes y pandemig Covid-19, mae’r diwydiannau creadigol wedi bod yn ffynnu,” meddai Helen Mary Jones, Cadeirydd y pwyllgor.

“Maen nhw’n rhan allweddol o’n heconomi, yn darparu swyddi medrus ac yn rhoi Cymru ar y map ledled y byd. Mae amser yn brin os ydym am sefydlogi a chynnal ein diwydiannau creadigol.

Yr argymhellion

Mae Llywodraeth San Steffan wedi cyhoeddi cyllid a ddylai fod werth £59m i’r celfyddydau yng Nghymru, ac mae’r pwyllgor yn galw am eglurder gan Lywodraeth Cymru ynghylch sut bydd yn cael ei wario.

Clywodd y pwyllgor fod cynyrchiadau ffilm a theledu yn cael trafferth sicrhau yswiriant llawn, ac mae am i Lywodraeth Cymru drafod â’r diwydiant yswiriant i ddelio â hynny.

Byddai angen cymryd cam tebyg er mwyn aildanio gigs byw, yn ôl yr adroddiad, am fod bariau yn gyndyn i gynnal digwyddiadau am nad ydyn nhw’n medru cael yswiriant.

Mae golwg360 wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am ymateb.