Mae Cronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru wedi cefnogi dros 9,000 o fusnesau yng Nghymru gan warchod 75,000 o swyddi, yn ôl Gweinidog yr Economi Ken Skates

Hyd yma, mae gwerth dros £150 miliwn o grantiau wedi cael eu rhoi i fusnesau er mwyn iddynt allu delio â phandemig y coronaferiws.

“Mae ein Cronfa Cadernid Economaidd yn hanfodol wrth sicrhau bod busnesau o Gymru yn derbyn y cymorth ariannol y maent ei angen i helpu iddynt ddod drwy’r cyfnod hynod heriol hwn. Mae ein cyfrifiadau yn dangos bod y Cynllun Cadernid Economaidd wedi helpu i warchod oddeutu 75,000 o swyddi,” meddai Gweinidog yr Economi Ken Skates.

“Sefydlwyd y Cynllun Cadernid Economaidd i lenwi’r bylchau a adawyd gan gymorth Llywodraeth y DU a dwi’n falch bod y gronfa hon yn cefnogi cynifer o gwmnïau allai fod wedi cael eu gadael ar ôl.

“Bydd rhagor o gyllid y Gronfa Cadernid Economaidd yn parhau i gyrraedd busnesau  yn y dyddiau a’r wythnosau nesaf wrth i geisiadau barhau i gael eu prosesu.”

Mae’r Gronfa Cadernid Economaidd yn rhan o becyn cymorth gwerth £1.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru.

Tra bod cronfa arall ar gyfer helpu cwmnïau sydd heb dderbyn cymorth gan gynllun cymorth incwm Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer pobol hunangyflogedig yn dal i dderbyn ceisiadau.

Ychwanegodd Ken Skates: “Fel Llywodraeth Cymru rydym wedi gweithredu ar unwaith i helpu i warchod busnesau yng Nghymru rhag effaith ddifrifol y coronafeirws.

“Rydym yn gweithio’n galed i ymateb i anghenion busnesau, ond mae’n amlwg nad yw ein cyllideb yn ddi-ddiwedd.