Mae Mark Drakeford wedi cadarnhau mewn cyhoeddiad heddw (dydd Gwener 17 Gorffennaf) y bydd meysydd chwarae a chanolfannau cymunedol yn gallu ailagor.

Bydd campfeydd awyr agored (outdoor gyms) hefyd ymhlith y cyfleusterau fydd yn cael agor o ddydd Llun (20 Gorffennaf) ymlaen.

Roedd y Prif Weinidog eisoes wedi cyhoeddi y byddai’r rhain yn ailagor cyhyd â bod lefelau’r coronafeirws yn parhau i gwympo yng Nghymru.

Mae ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos bod Cymru wedi profi dau ddiwrnod yn olynol heb farwolaethau oherwydd Covid-19.

Gan siarad ar Radio Wales Breakfast, dywedodd Mr Drakeford:

“Fel bob tro, rydym yn cadw llygad barcud ar yr holl ddangosyddion. A byddwn yn cadarnhau heddiw wrth fynd i mewn i’r wythnos nesa’ y bydd parciau chwarae, canolfannau cymunedol a champfeydd awyr agored oll yn gallu ailagor o ddydd Llun.

Fe gafon ni ddiwrnod arall heb farwolaethau ddoe – sy’n parhau I ddangos, am y tro, bod pethau’n parhau I symud I’r cyfeiriad cywir, felly mae ganddon ni’r hyblygrwydd I symud ymlaen.”

Pan ofynnwyd iddo a oedd hyblygrwydd i fynd yn gynt ac ailagor mwy o bethau, dywedodd Mr Drakeford:

“Dwi ddim yn credu bod ganddon ni fwy o hyblygrwydd na hynny – rydyn ni’n parhau i symud gam wrth gam. Nid yw’r coronafeirws wedi mynd i ffwrdd. Mae’r ffigurau’n dda, o ran mae’r cylchrediad yn y gymuned yn isel. Mae’r effeithiau difrifol, o ran achosion yn yr ysbyty a marwolaethau yn isel.

Ond fel ry’n ni wedi gweld yn Melbourne, Awstralia, mis yn ôl fe gafon nhw ddiwrnodau heb unrhyw achosion a phedair wythnos yn ddiweddarach mae 5 miliwn o bobl dan gyfyngiadau cloi. Mae hwn yn glefyd difrifol. Gall pethau fynd o fod yn addawol i fod yn ddifrifol mewn cwta wythnosau.”

Llacio rheolau

Daw hyn yn sgil sawl wythnos o lacio rheolau yng Nghymru, ac ers dechrau’r wythnos hon mae pobol wedi medru torri eu gwallt mewn barbwr, ac yfed mewn gerddi cwrw.

Brynhawn ddoe, datgelodd y Prif Swyddog Meddygol y byddai’r cyfyngiadau yn cael eu llacio i bobol fregus sydd wedi bod yn hunanynysu dan reolau llymach.

Fe wnaeth y Prif Weinidog gadarnhau’r cyfan mewn cynhadledd i’r wasg fyw ar deledu ac ar y we – ganol dydd heddiw.