Bydd Her Ddarllen yr Haf yn cael ei lansio heddiw (dydd Gwener, Gorffennaf 17) gan y Gweinidog Addysg Kirsty Williams, a’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas.

Mae’r her flynyddol yn ceisio annog plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen chwe llyfr dros wyliau’r haf.

Eleni mae’r her yn symud i blatfform digidol, dwyieithog newydd, gyda chefnogaeth gan wasanaethau e-fenthyca llyfrgelloedd, digwyddiadau ar-lein ac adnoddau digidol.

Thema’r Her eleni yw’r ‘Sgwad Gwirion’ a bydd yn dathlu llyfrau hwyliog.

Bydd plant sy’n cymryd rhan yn y Her yn ymuno â’r Sgwad Gwirion, sef tîm o anifeiliaid sydd “wrth eu boddau’n cael hwyl a chladdu’u trwynau mewn pob math o lyfrau doniol!”

Cymerodd dros 37,000 o blant ledled Cymru ran yn y her llynedd.

“Fel rhywun sy’n caru llyfrau fy hun, dw i’n gwybod gymaint o bleser yw darllen dros y gwyliau,” meddai’r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams.

“Bob blwyddyn, mae miloedd o blant yn ymuno â llyfrgelloedd oherwydd Her Ddarllen yr Haf, sy’n ffordd ardderchog o ddatblygu sgiliau darllen, darganfod awduron newydd a meithrin cariad gydol oes at lyfrau.”

Tra bod Y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Dafydd Elis-Thomas wedi dweud bod y cynllun wedi “ennill ei blwyf fel digwyddiad blynyddol i lawer o blant, sy’n edrych ymlaen at gymryd rhan bob blwyddyn.

“Hoffwn ddiolch i’r holl staff yn ein llyfrgelloedd sy’n cyfrannu at wneud Her Ddarllen yr Haf yn gymaint o lwyddiant yng Nghymru,” meddai.

Her yr Haf “yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni”

Mae Her yr haf “yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni” yn ôl Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru, Nicola Pitman.

“Mae gan lyfrgelloedd nawr eu casgliadau mwyaf erioed o eLyfrau, comics a chylchgronau i’w lawrlwytho, ac eleni mae Her Ddarllen yr Haf yn barod i helpu darllenwyr ifanc a’u rhieni yn wirioneddol i fanteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gael hwyl gyda straeon a phynciau doniol,” meddai.

“Mae gwasanaethau Clicio a Chasglu yn cael eu sefydlu ledled y wlad i helpu pawb i gael gafael ar lyfrau llyfrgell yn ddiogel yn ystod y cyfnod hwn.

“Rydyn ni wrth ein bodd ei bod hi mor hawdd cofrestru a derbyn yr her, diolch i’r wefan ar ei newydd wedd, sy’n cynnig llond lle o adnoddau, syniadau ac anogaeth gwych. Rydyn ni’n edrych ymlaen at weld pawb yn mynd yn hollol wirion ac yn ymuno â sgwad Her Ddarllen yr Haf.”