Mae erlynwyr wedi datgelu strategaeth pum mlynedd i wella graddfa dedfrydu mewn achosion o dreisio wrth i ffigyrau ddatgelu eu bod ar eu lefelau isaf erioed.
Daw hyn ar ôl i heddlu ag erlynwyr gael eu beirniadu’n gynharach y mis hwn ar ôl iddi ddod i’r amlwg mai dim ond 1.4% o achosion o dreisio gafodd eu herlyn yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth.
Wrth ymateb i’r ffigyrau, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron ei fod yn “gweithio’n galed i wrthdroi’r duedd rydym wedi ei weld yn y blynyddoedd diwethaf.”
Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn defnyddio’r strategaeth pum mlynedd i wella’r ffigyrau, yn ôl Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus, Max Hill.
“Rwyf yn derbyn graddfa’r broblem ond mae’n rhaid i ni dderbyn bod yna gamgymeriadau mawr wedi cael eu gwneud dros y tair, bedair blynedd ddiwethaf,” meddai Max Hill wrth BBC Radio 4.
Recordio tystiolaeth o flaen llaw
Mae Max Hill hefyd o’r gred y dylai dioddefwyr trais gael recordio tystiolaeth o flaen llaw er mwyn cael osgoi mynd gerbron llys.
“Dw i’n credu bod angen i ni edrych eto ar hyn, ac ehangu nifer y categorïau lle gall pobol recordio tystiolaeth o flaen llaw yn hytrach na disgwyl amser hir i fynychu achos llys.”
Adroddiad yr heddlu
Mae adroddiad gan yr heddlu gafodd ei ryddhau ddydd Mercher (Gorffennaf 29) wedi dangos bod nifer yr achosion o dreisio gafodd eu hadrodd i’r heddlu wedi cynyddu 260% rhwng 2013 a 2019.
Ond yn ôl ffigyrau’r Swyddfa Gartref, dim ond 1.4% o’r 55,130 o droseddau wnaeth arwain at ddedfryd.
“Bydd Gwasanaeth Erlyn y Goron yn parhau i ddatblygu, hyfforddi ein pobol a gweithio i helpu unigolion a’i achosion,” meddai Max Hill