Mae cyn-Aelod Seneddol Ceidwadol yn wynebu “posibiliad go iawn” o fynd i’r carchar ar ôl ymosod yn rhywiol ar ddwy ferch.

Roedd Charlie Elphicke, 49, wedi gwadu’r honiadau yn ei erbyn gan gyhuddo’r merched o ddweud celwyddau, ond ar ôl deuddydd o drafod daeth y rheithgor i’r casgliad ei fod yn euog.

Fe’i cafwyd yn euog o dri chyhuddiad o ymosod yn rhywiol, a chafodd ei rhyddhau ar fechnïaeth. Bydd yn derbyn ei ddedfryd ym mis Medi.

“Mae pob opsiwn [dedfrydu] yn agored,” meddai’r barnwr, Ustus Whipple. “Ac mae yna bosibiliad go iawn ei fod yn wynebu carchar.”

“Tori drwg”

Clywodd y llys am y cyhuddiadau yn ei erbyn dair wythnos yn ôl.

Roedd Charlie Elphicke yn Aelod Seneddol tros Dover rhwng 2010 a 2019, a chafodd ei olynu gan ei wraig Natalie – doedd hi ddim yn y llys adeg y dedfrydu er ei bod wedi bod yno yn ystod yr achos.

Digwyddodd y drosedd gyntaf yn ei dŷ yn Llundain yn 2007, pan wahoddodd dynes yn ei 30au cynnar i rannu diod ag ef pan oedd ei blant yn cysgu a’i wraig yn gweithio.

Yn ôl y ddynes mi ofynnodd cwestiynau iddi am ryw, cyn ei chusanu, teimlo ei bron, a’i dilyn o gwmpas y tŷ gan ailadrodd: “dw i’n Dori drwg”.

Yr ail achos

Gyda’r ail ddynes, ceisiodd Charlie Elphicke ei chusanu a’i chyffwrdd ym mis Ebrill 2016 pan wnaethon nhw gwrdd am ddiod. Roedd hithau’n weithiwr senedd yn ei hugeiniau cynnar.

Bu iddo ymosod arni eto fis yn ddiweddarach trwy roi ei law ar ei chlun. Roedd y ddynes yn llefain wrth roi tystiolaeth.