Mae Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd, Liz Saville Roberts, wedi croesawu diogelu swyddi ar safle datgomisiynu Trawsfynydd.

Daw hyn wedi iddi ddod i’r amlwg bod Trawsfynydd wedi’i ddewis fel y safle i arwain prosiect datgomisiynu adweithyddion Magnox.

Bydd hyn yn sicrhau cyflogaeth yn yr ardal am y ddau ddegawd nesaf, yn ôl Liz Saville Roberts.

“Mae hyn yn newyddion gwych i Wynedd – ac, unwaith y bydd yr achos busnes wedi’i gwblhau, rhagwelir y bydd yn arwain at ddiogelu a chynyddu nifer y swyddi sgiliau uchel â chyflog da yn Nhrawsfynydd am yr 20 mlynedd nesaf,” meddai.

“Deallaf fod posib i nifer y swyddi ar y safle gynyddu i tua 250 erbyn 2021. Dylid troi pob carreg i sicrhau fod pobl leol yn parhau i elwa o’r cyfleoedd hyn. Ar hyn o bryd mae 97% o’r gweithlu yn byw yng ngogledd Cymru ac mae 85% o weithwyr Pwerdy Trawsfynydd yn siaradwyr Cymraeg.

“Mae’n ddyletswydd ar ein sector niwclear a defnyddwyr trydan heddiw i gymryd cyfrifoldeb am glirio safleoedd, ac adweithyddion Trawsfynydd fydd y cyntaf i gael eu datgomisiynu yn llwyr yn y Deyrnas Unedig.”

“Cyfleoedd i genhedlaeth newydd o beirianwyr”

Bydd y prosiect yn darparu “cyfleoedd i genhedlaeth newydd o beirianwyr,” meddai Liz Saville Roberts.

“Yn hyn o beth, bydd y gwaith a wneir yma yn arwain y sector gyfan, ac yn agor cyfleoedd i genhedlaeth newydd o beirianwyr,” meddai.

“Croesawaf yn arbennig fod chwe prentisiaeth yn cael ei chreu ac yn cychwyn yr Hydref hwn, gyda’r tebygolrwydd y bydd mwy i ddilyn.

“Deallaf fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi sêl bendith i’r cyhoeddiad heddiw ac edrychaf ymlaen at weithio gyda’r Awdurdod Datgomisiynu Niwclear, rheolwyr safle a rhanddeiliaid lleol i gyflwyno’r achos busnes terfynol erbyn mis Mawrth 2021.”