Mae canolwr Cymru, Jamie Roberts, wedi dychwelyd i Gymru gan arwyddo i’r Dreigiau.
Mae Roberts, sydd wedi ennill 94 o gapiau dros Gymru, yn ymuno â’r Dreigiau ar ôl cyfnod gyda’r Stormers yn Ne Affrica.
Mae’r chwaraewr 33-mlwydd-oed wedi chwarae’n flaenorol i Racing 92 yn Ffrainc, a Harlequins a Caerfaddon yn Lloegr, yn ogystal â Gleision Caerdydd.
Dywedodd Roberts ei fod yn gyffro i gyd am ddechrau arni gyda’r Dreigiau:
“Pan adewais i Gymru yn 2013 i chwarae rygbi y tu hwnt i fy ngwlad enedigol, roeddwn bob amser yn addo y byddwn i’n ymdrechu i ddychwelyd a chwarae yng Nghymru eto.
“Ar ôl cael profiadau gwych yn chwarae ar draws tair o brif gynghreiriau’r byd yn Ffrainc, Lloegr a De Affrica, dw i wrth fy modd yn dychwelyd i Gymru i chwarae gyda’r Dreigiau a chystadlu eto yn y Guinness PRO14 a Chwpan y Pencampwyr.
“Rwy’n ddiolchgar iawn am gael y cyfle hwn, yn enwedig o gofio’r hinsawdd yr ydym ynddi ar hyn o bryd.
“Rwy’n falch iawn ac yn ddiolchgar o fod wedi cyflawni llawer o’r hyn yr oeddwn yn bwriadu ei gyflawni yn y gêm ac mae nawr yn amser perffaith i mi helpu llawer o’r Dreigiau ifanc hyn i gyflawni, fel tîm ac fel unigolion.”
Mae Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau, Dean Ryan, yn falch iawn o fod wedi arwyddo rhywun gyda chymaint o brofiad.
Meddai Ryan: “Mae’n newyddion gwych ein bod yn dod â rhywun o safon Jamie i’r rhanbarth ac rydym yn gwybod y bydd yn cael effaith arnom ni, a hynny ar unwaith.
“Mae’n parhau i fod yn chwaraewr uchelgeisiol ac mae’n edrych ymlaen at ddod aton ni.
“Bydd cael ei brofiad ar y cae yn wych i ni, a bydd hefyd yn fentor rhagorol i’r chwaraewyr iau yn ein carfan ni.”