Mae tîm criced Morgannwg wedi colli gêm gynta’r tymor ar drydydd diwrnod gêm pedwar diwrnod yn erbyn Gwlad yr Haf yn Nhlws Bob Willis.
Ar ddechrau’r diwrnod olaf yn Taunton, roedd y sir Gymreig yn 126 am bump wrth gwrso nod annhebygol o 456.
Gorffennodd y bowliwr cyflym Jamie Overton â phum wiced am 48 yn yr hyn a all fod ei gêm olaf cyn ymuno â Surrey, ac fe orffennodd ei frawd Craig â saith wiced dros y ddau fatiad.
Cwympodd pum wiced olaf Morgannwg am 40 rhediad o fewn 70 munud.
Chwarter awr yn unig gymerodd hi i Wlad yr Haf gipio’r wiced gyntaf y bore yma, wrth i Graham Wagg daro ergyd lydan i’r wicedwr Steve Davies oddi ar fowlio Jamie Overton.
Roedd gobeithion Morgannwg ar ben pan gafodd y capten Chris Cooke ei ddal yn y slip gan James Hildreth oddi ar fowlio Overton eto am 82, a’i fatiad yn cynnwys deg ergyd i’r ffin am bedwar.
Roedd Morgannwg yn 153 am saith wrth i Ruaidhri Smith gerdded i’r llain â rhedwr yn dilyn anaf i linyn y gâr ac fe gafodd yntau ei ddal gan Roelof van der Merwe oddi ar fowlio Josh Davey.
Daeth pumed wiced Overton yn ystod cyfnod o dair wiced am 16 mewn 7.2 pelawd, pan fowliodd e Kieran Bull â iorcer, ac fe wnaeth y bowliwr gau pen y mwdwl ar yr ornest pan ddaliodd e Michael Hogan yn y slip oddi ar fowlio Jack Brooks.
Yn absenoldeb Marnus Labuschagne y tymor hwn, mae’n ymddangos bod gan Forgannwg gryn dipyn o waith i’w wneud cyn iddyn nhw deithio i Gaerwrangon ddydd Sadwrn (Awst 8).
Gweddill y gêm
Roedd yr ysgrifen ar y mur i Forgannwg yn gynnar iawn yn yr ornest, wrth i Wlad yr Haf ddianc o sefyllfa drychinebus yn y batiad cyntaf i sgorio 296 ar ôl bod yn 189 am naw cyn i Steve Davies a Jack Brooks adeiladu partneriaeth o 107, sy’n record degfed wiced i’r sir.
Dim ond tri o fatwyr Morgannwg gafodd sgôr ffigurau dwbwl yn y batiad cyntaf wrth iddyn nhw gael eu bowlio allan am 131, er iddyn nhw osgoi gorfod canlyn ymlaen.
Fe wnaeth Gwlad yr Haf bentyrru’r pwysau yn eu hail fatiad, wrth i’r capten Tom Abell sgorio 119, ac roedd hanner canred (54) i Ben Green, oedd yn eilydd cyfergyd yn y batiad ar gyfer George Bartlett, a’r Saeson yn sgorio 290 am wyth cyn cau’r batiad.
Nod o 456 oedd gan Forgannwg, felly, ac roedd hi’n edrych yn annhebygol o’r dechrau’n deg yn erbyn bowlwyr o safon Adran Gyntaf yn erbyn batwyr o safon yr Ail Adran, ac fe gawson nhw eu bowlio allan am 166 yn y pen draw.