Wrth i Glwb Pêl-droed Caernarfon ddechrau paratoi ar gyfer y tymor newydd, mae Cadeirydd y clwb, Paul Evans, wedi dweud wrth golwg360 y byddai gorfod chwarae heb gefnogwyr yn bresennol yn cael “effaith mawr ar incwm y clwb.”

Fodd bynnag, mae’n dweud y bydd y clwb yn cefnogi unrhyw benderfyniad y bydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ei wneud.

“Mae’n debyg bod Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisiau dechrau’r tymor yn reit fuan,” eglura Paul Evans wrth golwg360.

“Mi fyddan ni’n cefnogi unrhyw benderfyniad mae’r Gymdeithas yn ei wneud i’r carn.

“Ond fel clwb, rydym ni’n ddibynnol ar ddau incwm, sef noddwyr ac arian y giât, does gennym ni ddim noddwr cyfoethog tu ôl i ni.

“Felly pe byddai’n rhaid i ni chwarae tu ôl i ddrysau caeedig neu gyda nifer cyfyngedig o gefnogwyr, byddem yn gofyn am becyn iawndal gan y Gymdeithas i’n helpu ni’n ariannol.”

Gofyn i’r cefnogwyr am gymorth ariannol?

Opsiwn arall mae Paul Evans yn credu y gallai’r clwb ei gymryd pe byddai angen hwb ariannol arno fyddai gofyn i’r cefnogwyr am gymorth.

“Mae’n cefnogwyr ni wedi bod yn anhygoel dros y blynyddoedd ac felly byddem yn ystyried gofyn am help llaw ganddynt,” meddai.

“Rydym ni’n gweld bod Caer wedi gwneud hynny, ac wedi llwyddo i godi £100,000 drwy ofyn i’w cefnogwyr am gymorth ariannol, fel Go Fund Me, math o beth.

“Os na chawn ni chwarae o flaen cefnogwyr drwy’r flwyddyn, byddwn yn edrych ar golled ariannol o £40,000 i £45,000 a byddai dim un clwb yn y gynghrair yn gallu ymdopi gyda hynna.”

Mi fyddai chwarae yn Ewrop wedi bod werth tua £180,000 i’r Cofis, ac wedi creu pennod newydd yn hanes y clwb, meddai Paul Evans.

Ond wrth i’r tymor diwethaf ddod i ben yn fuan, collodd y Cofis allan ar y cyfle hwnnw.

“Carfan Ifanc”

Wrth i’r tîm baratoi am y sesiwn hyfforddi gyntaf ers dechrau pandemig y coronafeirws heno (nos Fawrth, Awst 4), dywed Paul Evans ei fod yn hyderus y bydd y “garfan ifanc yn cael tymor da.”

“Byddwn ni’n hyfforddi dwy waith yr wythnos o hyn ymlaen, ar nos Fawrth a nos Iau,” eglura Paul Davies.

“Hwn fydd tymor llawn cyntaf ein rheolwr ni, Huw Griffiths, ac mae hanner y garfan yn newydd felly mae pawb yn edrych ymlaen.

“Mae yna dipyn o chwaraewyr wedi ei gadael ni eleni, gyda hogiau ifanc yn dod mewn.

“Felly, rydan ni’n reit hyderus y bydd y garfan ifanc yn cael tymor da.”