Mae’r Cymro Jamie Clarke wedi achosi sioc yn rownd gyntaf Pencampwriaeth Snwcer y Byd yn Sheffield drwy guro Mark Allen o Ogledd Iwerddon o ddeg ffrâm i wyth.
O gymharu â’r Gwyddel, sef pedwerydd detholyn y byd, mae’r Cymro o Lanelli’n rhif 89.
Cafodd Allen bum rhediad o dros 100, gan ddod yn gyfartal â record Ronnie O’Sullivan ar gyfer rownd gynta’r gystadleuaeth.
Roedd Allen ymhlith y ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth yn y Crucible, ac roedd e ar ben ffordd ar ddechrau’r ornest gyda rhediadau o 136 a 105 cyn sgorio 122, 105 a 105.
Ond tarodd Clarke yn ôl gyda 136, gan fynd yn ei flaen i ennill pedair ffrâm yn olynol i’w gwneud hi’n 6-4 cyn dangos cryn gymeriad i ddal ei dir a sgorio 74 a selio’r fuddugoliaeth.
Cyn y gystadleuaeth hon, fe gyrhaeddodd Clarke rownd gyn-derfynol un gystadleuaeth eleni ond fe gollodd yn rownd gyntaf chwe chystadleuaeth arall.
Bydd e’n herio Anthony McGill yn y rownd nesaf.
Ymateb
“Mae’n anhygoel, does gyda fi ddim geiriau,” meddai wrth Eurosport.
“Roedd gyda fi feddylfryd, wrth ennill y gêm gymhwyso, i fynd allan a charu’r profiad.
“Ennill o 10-0 neu golli o 10-0, doedd wir ddim ots gyda fi.
“Ro’n i’n credu y gallwn i ennill y gêm o’r bêl gyntaf, hyd yn oed pan oedd Mark yn sgorio cant bob ffrâm!
“Ro’n i’n dal i gredu y gallwn i ennill, dw i ddim yn gwybod pam ond fe wnes i ddal i gredu ac ar y diwedd, do’n i’n methu teimlo fy mraich.
“Gwallgof!”