Mae tîm pêl-droed Fulham wedi ennill dyrchafiad o’r Bencampwriaeth i Uwch Gynghrair Lloegr ar ôl curo Brentford o 2-1 ar ôl amser ychwanegol.

Sgoriodd y cefnwr chwith Joe Bryan ddwy gôl yn hwyr yn yr ornest i sicrhau’r dyrchafiad, a daeth gôl gysur i Henrik Dalsgaard i sicrhau bod yr ornest yn fyw hyd y diwedd.

Camgymeriad gan y golwr David Raya arweiniodd at gôl gyntaf Fulham ar ôl 104 o funudau, wrth iddo gael ei ddal yn segur wrth amddiffyn cic rydd o 35 llathen.

Fe wnaeth Fulham ddyblu eu mantais dros eu cymdogion yng ngorllewin Llundain ar ôl 116 munud, wrth i Bryan droi ar ei sawdl ac ergydio â’i droed wannaf i’r gôl.

Mae’n ddiweddglo perffaith i dymor llawn cynta’r rheolwr Scott Parker ym myd rheoli pêl-droed.

Taith i’r ffeinal ail gyfle

Fe wnaeth Fulham gyrraedd rownd derfynol y gemau ail gyfle ar ôl curo Caerdydd o 3-2 dros y ddau gymal.

Ac fe gyrhaeddodd Brentford y ffeinal ar ôl trechu Abertawe o’r un sgôr dros ddau gymal.