Mae capten tîm criced Iwerddon yn dweud bod y fuddugoliaeth dros Loegr mewn gêm undydd yn Southampton ddoe (dydd Mawrth, Awst 4) yn un y “byddwn yn ei chofio am byth”.
Tarodd Paul Stirling a’r capten Andrew Balbirnie ganred yr un mewn partneriaeth o 214 wrth gwrso nod o 329 i ennill – yr un sgôr â’u buddugoliaeth hanesyddol dros yr un gwrthwynebwyr yng Nghwpan y Byd yn 2011.
Roedd angen 50 oddi ar 33 pelen ola’r ornest ar y Gwyddelod pan gollon nhw’r capten am 113, yn fuan ar ôl i’w bartner golli ei wiced yntau am 142.
Daeth y fuddugoliaeth o saith wiced gyda phelen yn weddill.
Dyma’r ail waith i Loegr golli yn erbyn Iwerddon, a’r tro cyntaf erioed yn Lloegr.
Mae’n golygu bod Iwerddon bellach wedi curo pencampwyr 50 ac 20 pelawd y byd eleni, ar ôl trechu India’r Gorllewin.
“Mae’n fuddugoliaeth enfawr i ni ac i’r criw yma,” meddai Andrew Balbirnie.
“Mae’n beth arbennig i’r bois ifanc fod ynghlwm wrth y gyfres a hefyd wrth y fath fuddugoliaeth, ac mae’n un y byddwn ni’n ei chofio am byth.
“Dw i ddim yn gwybod a ydyn ni wedi amgyffred y peth eto.
“Gobeithio ein bod ni wedi rhoi hwb i’r plant a’r to iau, yn ogystal â rhywbeth i anelu ato.”
Lloegr sydd wedi ennill y gyfres o 2-1, sy’n cyfrannu at Uwch Gynghrair Cwpan y Byd yr ICC fel rhan o’r broses gymhwyso ar gyfer Cwpan y Byd yn India yn 2023.
Ar ôl mynd adref, bydd rhaid i gricedwyr o Weriniaeth Iwerddon fynd i gwarantîn, ond dydy’r un ddim yn wir am gricedwyr o Ogledd Iwerddon.