Mae Mike van der Hoorn, yr amddiffynnwr canol a’r cyn-gapten, wedi gadael Clwb Pêl-droed Abertawe ar ôl i’w gytundeb ddirwyn i ben.

Ymunodd o glwb Ajax yn ei famwlad yn 2016 ac ers hynny, mae e wedi chwarae 125 o weithiau i’r clwb a sgorio chwe gôl.

Cafodd ei benodi’n gapten ar gyfer tymor 2018-19.

“Bydd Abertawe bob amser yn lle arbennig i fi,” meddai.

“Des i yma, a dyma’r tro cyntaf nad o’n i wedi bod gartref a’r tro cyntaf i fi fod dramor yn fy ngyrfa.

“Cafodd fy mab [Louen] ei eni yma, felly fe fydd e’n lle arbennig i’n teulu ni, a bydda i’n dychwelyd.

“Dw i eisiau dangos i fy mab lle cafodd ei eni, ac rydyn ni wedi gwneud llawer o ffrindiau yma.”

Pedair blynedd anodd

Cafodd Mike van der Hoorn bedair blynedd anodd yn Abertawe.

Yn ei ddau dymor cyntaf, fe weithiodd e i bedwar rheolwr gwahanol, ac fe fu’n rhaid iddo frwydro’n galed am ei le.

Ond fe aeth e o nerth i nerth yn y Bencampwriaeth yn dilyn y gwymp, gan ymddangos yn gyson yn nhimau Carlos Carvalhal a Graham Potter, oedd wedi ei benodi fe’n gapten.

Chwaraeodd e bob gêm o dan arweiniad Potter, gan chwarae mewn 70 o gemau’n olynol cyn anafu ei ben-glin.

Roedd e’n aelod allweddol o dîm Steve Cooper y tymor hwn wrth iddyn nhw gyrraedd y gemau ail gyfle.

Mae ei ymadawiad yn golygu y gallai dau Gymro, Joe Rodon a Ben Cabango, chwarae rhan fwy amlwg yn y tîm y tymor nesaf, ond mae golwg360 yn deall bod y clwb yn agos at arwyddo amddiffynnwr canol arall o’r Bencampwriaeth.

Yn y cyfamser, mae’r clwb yn parhau i drafod telerau gyda Kyle Naughton a Wayne Routledge, dau o’r hoelion wyth.