Mae Graham Henry, cyn-brif hyfforddwr tîm rygbi Cymru, wedi dweud i’w gyfnod yn hyfforddi yng Nghymru osod y sail ar gyfer ei yrfa hyfforddi lwyddiannus – er iddo gydnabod i’r profiad bron â’i ladd.
Roedd Graham Henry yn brif hyfforddwr Cymru rhwng 1998 a 2002, gan ennill 20 gêm allan o 34, gan gynnwys 10 gêm yn olynol.
Ar ôl hyfforddi’r Llewod ar eu taith i Awstralia yn 2001, aeth Graham Henry yn ei flaen i hyfforddi’r Crysau Duon rhwng 2004 a 2011.
Yn brif hyfforddwr ar Seland Newydd, fe arweiniodd y Crysau Duon ar 103 achlysur gan ennill 88 o’r gemau hynny.
Penllanw ei yrfa oedd ennill Cwpan Rygbi’r Byd gyda Seland Newydd yn 2011.
‘Angerdd y Cymry’
“Rwy’n credu eu bod nhw [y Cymry] yn wahanol, maen nhw’n bobol hyfryd, ond maen nhw’n andros o angerddol!” meddai Graham Henry wrth bodlediad y Crysau Duon.
“Maen nhw’n teimlo eu bod nhw’n rhan o’r tîm,” meddai.
“Wrth gerdded i lawr y stryd, er enghraifft, allwch chi ddim mynd i unman heb i bobol dyrru o’ch cwmpas a gofyn cwestiynau i chi.
“Allwch chi ddim mynd allan a chael peint oni bai bod gyda chi ychydig o bobol o’ch cwmpas i’ch cadw chi’n saff!
“Ond mae hynny’n beth da hefyd – maen nhw mor angerddol.
“Myn Duw, ges i amser da yno, er i’r profiad bron â fy lladd i!”
Eglurodd Graham Henry mai ei freuddwyd o’r cychwyn oedd hyfforddi’r Crysau Duon yn y pen draw, ond awgrymodd ei fod o flaen ei amser ar ôl penderfynu mynd i hyfforddi dramor yn 1998.
“Rwy’n credu mai fi oedd y person cyntaf i wneud y math yna o beth, ar y lefel honno beth bynnag, ac roedd yn brofiad gwych.
“Fe ddysgais i gymaint amdanaf fi fy hun.”
Gadawodd Cymru yn 2002 ar ôl colled drom (54–10) yn erbyn y Gwyddelod ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.