Mae Tom Cullen, wicedwr ail dîm Morgannwg, yn dweud bod ei brofiadau o golli ei fam a brwydr ei dad ag alcoholiaeth yn golygu y bydd e’n barod i “fwrw iddi” ac achub ar bob cyfle a ddaw i chwarae i’r tîm cyntaf – y tymor hwn ac yn y dyfodol.
Cafodd ei gynnwys yn y garfan ar gyfer y daith i herio Gwlad yr Haf yn Taunton yn Nhlws Bob Willis, y gystadleuaeth pedwar diwrnod, ond fe gafodd ei hepgor gan mai’r wicedwr rheolaidd yw’r capten Chris Cooke.
Yn ôl Cullen, sy’n enedigol o Perth yn Awstralia, fe fydd yr atgofion am ei fam yn ei sbarduno, a hithau’n chwe blynedd ar Orffennaf 15 ers ei cholli.
Ar y diwrnod hwnnw, ysgrifennodd y wicedwr 28 oed neges deimladwy er cof am ei fam, gan gyfeirio at frwydr ei dad hefyd yn erbyn alcoholiaeth.
“Gobeithio bod fy hanes o weithio trwy’r pethau hynny tra’n brwydro yn erbyn sawl her arall ar hyd y ffordd yn ysbrydoli un neu ddau sy’n meddwl ei bod hi’n rhy hwyr i gwrso’ch breuddwyd,” meddai’r neges ar Twitter.
Daeth ei golled bersonol ar adeg pan oedd ganddo fe benderfyniad i’w wneud am ei yrfa fel darpar-gricedwr proffesiynol, ond roedd e’n gwybod yn iawn y byddai ei fam wedi ei gefnogi bob cam o’r ffordd, doed a ddêl.
“Ar y pryd, ro’n i am fynd i’r brifysgol yn y mis Medi,” meddai.
“Ro’n i wedi cael lle ac ro’n i ar groesffordd p’un a ddylwn i fwrw iddi, am wn i.
“Ond pan wnaeth hi farw – ac roedd hi bob amser yn fy nghefnogi i gwrso fy mreuddwyd o geisio bod yn chwaraewr proffesiynol – fe ges i fy ngwthio i fwrw iddi a chwrso’r yrfa hon yn y byd chwaraeon proffesiynol.”
Gwisgo rhif 54
Ar ôl symud i Loegr yn gyntaf, ac yna i Gymru, fe ddaeth ei gyfle gyda Morgannwg ac yntau’n astudio Gwyddorau Chwaraeon yng Nghaerdydd.
Fe greodd e argraff wrth daro dau ganred yn olynol i dîm Prifysgolion Caerdydd yr MCC, ac fe aeth yn ei flaen i hawlio crys rhif 54 Morgannwg.
“Y rhif 54, sef y rhif dw i’n ei wisgo, yw oedran fy mam pan fu hi farw,” eglura.
“Ers iddi farw, mae fy mam wedi bod yn rhan fawr o fy ysgogiad ac yn rhan fawr o fy mywyd wedyn.
“Mae’n debyg, o golli rhiant mor ifanc, nad yw fyth yn eich gadael chi go iawn.
“Mae’n dod yn haws wrth i’r amser fynd heibio, ond mae’n eich gwthio chi i geisio ei hanrhydeddu gorau gallwch chi.
“Gwisgo 54 yw fy ffordd fach i o roi gwybod iddi ’mod i wedi’i gwneud hi.”
Chwarae gyda’i fam yn yr ardd
Wrth fynd o fod yn fachgen bach yn chwarae yn yr ardd flaen gyda’i fam i fod yn gricedwr proffesiynol, roedd taith Tom Cullen yn gyflawn.
“Byddai hi’n taflu peli ata’i hyd nes fy mod i wedi cael digon neu hyd nes y byddai’r haul yn mynd i lawr,” meddai.
Ar yr un pryd, roedd e’n treulio rhan fwya’r wythnos yn byw gyda’i dad, ar ôl i’w rieni ysgaru.
“Mae e [ei dad] wedi cael problemau ag alcohol,” meddai.
“Mae pethau wedi digwydd yn ei fywyd e sydd heb fynd o’i blaid e, ac fe aeth e ar hyd y trywydd yna.
“Dw i wedi ceisio’i helpu fe gorau gallwn i dros y blynyddoedd, a gwahanu fy ngyrfa oddi wrth fy mywyd teuluol, sef ceisio gofalu amdano fe.
“Dw i wedi colli fy mam eisoes ac yn ceisio gorau galla’ i i beidio â cholli ’nhad hefyd.”
Serch hynny, mae ei fywyd preifat wedi ei sbarduno fe i lwyddo ar y cae criced.
“Mewn ffordd ryfed, mae’r ffordd dw i’n chwarae’r gêm a’r ffordd dw i’n dod drosodd wrth ei chwarae hi, mae’r profiadau hynny wedi fy ngyrru i chwarae fel ’na, mewn ffordd ddygn, benderfynol fel fy mod i’n llwyddo i oresgyn unrhyw rwystrau ar y cae criced, a hynny oherwydd ’mod i wedi bod trwy uffar o beth oddi ar y cae.
“Bron iawn, dw i wedi bod drwyddi i gyd o dan bwysau ar y cae criced a dw i’n defnyddio’r profiadau hynny oddi ar y cae i fy helpu.”
Brwydo am le
Fel chwaraewr ar y cyrion ac yn ail ddewis i’r capten Chris Cooke, prin fydd cyfleoedd Tom Cullen i serennu yn ystod y tymor byr yma.
Ond ei ddyfalbarhad a’i “ffordd benderfynol” fydd yn ei helpu wrth frwydro i chwarae yn y cystadlaethau hir a byr rhwng nawr a diwedd y tymor.
“Dw i wastad yn un am ddefnyddio heriau ac edrych ar bethau mewn ffordd bositif a gweld cyfleoedd,” meddai.
“Mae tymor byr yn golygu bod popeth gymaint â hynny’n fwy dwys gyda phob gêm sy’n dod.
“Mae’n rhaid i’r bois sy’n cael eu dewis fwrw iddi ac os na, mae’n rhaid bod yna fois ar y cyrion yn barod amdani.
“Gyda phum gêm yn y Bencampwriaeth, bydd pob dydd yn cyfri tuag at ddod â thlws yn ôl i Gymru rywbryd, boed hynny y tymor hwn neu yn y dyfodol.
“Dw i’n gredwr mawr, yn enwedig yn sgil y profiadau dw i wedi bod drwyddyn nhw i gyrraedd y fan yma, mewn trin pob gêm fel fy ngêm olaf a chwarae mor galed ag y galla i er mwyn y cefnogwyr.
“Hyd yn oed gyda’r tymor byr hwn, bydd meddylfryd ac agwedd o’r fath yn gweddu’n berffaith i fi os caf fi fy newis.”