Ddoe (dydd Mawrth 4 Awst) dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl-droed Caernarfon, Paul Evans, wrth golwg360, y byddai gorfod chwarae heb gefnogwyr yn bresennol yn cael “effaith mawr ar incwm y clwb.”

Felly, wrth i glybiau pêl-droed ledled Cymru ddychwelyd i hyfforddi, aeth golwg360 i holi rhai o glybiau’r Gogledd am eu paratoadau ar gyfer y tymor newydd…

 

“Cyfnod heriol” – Cadeirydd Clwb Pêl-droed Llanrug


Mae Cadeirydd Clwb Pêl-droed Llanrug, Emyr Pritchard, wedi dweud wrth golwg360 bod hwn yn “gyfnod heriol” i’r clwb.

“Mae o’n gyfnod heriol oherwydd mae gennym ni dal bethau sydd angen eu talu ond does dim arian yn dod i mewn.

“Rydym ni wedi llwyddo i gadw’r clwb yn sefydlog ond ’dan ni ddim wedi derbyn grant na dim byd felly i’n helpu ni.”

Mae Clwb Pêl-droed Llanrug wedi bod yn “canolbwyntio ar ffitrwydd” ers dechrau hyfforddi eto bythefnos yn ôl, meddai Emyr Pritchard.

“Newydd ddechrau hyfforddi ers rhyw bythefnos yda ni, gan ganolbwyntio ar ffitrwydd.

“Dim ond hynna allwn ni wneud gan fod canllawiau yn dal i fod mewn grym.

“Er hynny, does dim syniad gennym ni pryd fydd y tymor yn ail ddechrau, mae popeth up in the air braidd.”

 

“Hapus i fod yn ôl,” – Cadeirydd Clwb Pêl-droed Llanberis

Mae chwaraewyr Clwb Pêl-droed Llanberis yn “hapus i fod yn ôl,” wrth iddynt ddychwelyd i hyfforddi, meddai’r Cadeirydd, Eurwyn Thomas wrth golwg360.

“Dechreuodd y garfan hyfforddi wythnos diwethaf, gan gadw at y canllawiau i gyd, golchi dwylo ac ati, ac mi aeth hi reit dda,” meddai.

“Dw i’n meddwl fod yr hogiau yn hapus i fod yn ôl a chael gweld eu ffrindiau ac ati.

Ond un dyn na fydd yn dychwelyd i chwarae i’r ‘Darans’ y tymor hwn fydd Louis Williams.

Mae ef yn gadael y clwb ar ôl 9 mlynedd, gan chwarae dros 400 o weithiau i’r clwb.

“Mae o wedi bod yn un o’n chwaraewyr gorau ni dros y blynyddoedd ac mi fydd hi’n chwith ar ei ôl o,” meddai Eurwyn Thomas.

 

Clwb Pêl-droed y Felinheli yn “edrych ymlaen” at chwarae yn nhrydedd haen pêl-droed Cymru

Un tîm wnaeth elwa o benderfyniad Cymdeithas Bêl-droed Cymru i orffen y tymor diwethaf ar sail pwynt pob gêm oedd y Felinheli.

Daeth y clwb i frig Cynghrair Undebol y Gogledd, gan ennill yr hawl i chwarae yn nhrydedd haen pyramid pêl-droed Cymru.

“Mae pawb ohonom ni yma’n edrych ymlaen at gael dechrau’r tymor newydd yn y drydedd haen,” meddai Aelod o Bwyllgor y Clwb a chyn chwaraewr, Dylan Owen.

“Cafodd yr hogiau eu gweld ei gilydd yn iawn am y tro cyntaf ers ennill y gynghrair pan ddechreuon ni hyfforddi eto, ac roedd hynna’n grêt.

Ond gyda’r naid i’r drydedd haen, daw cyfrifoldeb: “Gan ein bod ni wedi ennill dyrchafiad, roedd yn rhaid i ni wneud gwelliannau i’r cae, adeiladu stand a chael dug out ar bob ochr i’r cae,” eglura Dylan Owen.

“Buon ni’n lwcus i gael grant gan yr FAW i wneud y gwaith yna, ond rhoddodd y coronafeirws stop ar y cwbl.

“Felly roedden ni mewn limbo am dipyn.”

Mae’r Felinheli, clwb sy’n ymfalchïo ar ddod a chwaraewyr ifanc i mewn i’r garfan, yn croesawu pedwar chwaraewr newydd y tymor hwn.

“Mae gennym ni hogiau ifanc, bedwar chwaraewr newydd yn dod i mewn felly bydd yna tua 20-25 yn y garfan eleni.

“Mae’r hogiau yn barod i fynd.”