Mae Hindwiaid India’n dathlu ar ôl i’r prif weinidog Narendra Modi osod carreg sylfaen teml ar hen safle mosg yn ninas Ayodhya yng ngogledd y wlad.

Mae’r deml yn talu teyrnged i Ram, un o dduwiau mwyaf blaenllaw’r ffydd Hindwaidd.

Cafodd seremoni ei chynnal i nodi’r achlysur, sy’n fan cychwyn tair blynedd o waith adeiladu ar y safle, ac roedd hefyd yn nodi blwyddyn ers i lywodraeth India ddileu statws ymreolaeth taleithiau Jammu a Kashmir.

Mae dileu ymreolaeth Kashmir yn un o addewidion hirdymor Narendra Modi a phlaid Bharatiya Janata Party, yn ogystal â chodi teml i Ram.

Cafodd strydoedd y ddinas eu cau ar gyfer yr ymweliad, gydag oddeutu 3,000 o filwyr yn gwarchod yr ardal.

Gwrthdaro

Daw’r seremoni fisoedd yn unig ar ôl i’r Goruchaf Lys yn India farnu o blaid codi teml Hindwaidd ar hen safle mosg yn nhalaith Uttar Pradesh.

Mae Hindwiaid o’r farn fod Ram wedi’i eni ar y safle, ac yn honni bod yr Ymeradwr Islamaidd Babur wedi codi mosg ar ben teml yno.

Cafodd y mosg ei ddinistrio gan Hindwiaid yn 1992, gan arwain at wrthdaro mawr a chryn drais a marwolaeth 2,000 o bobol.

Fe wnaeth y llys hefyd roi’r hawl i Fwslimiaid gael pum erw o dir i gael codi mosg newydd ar safle cyfagos.