Mae Neil Young wedi dwyn achos yn erbyn yr ymgyrch i ailethol yr Arlywydd Donald Trump am dorri rheolau hawlfraint.

Mae’r ymgyrch wedi defnyddio’r caneuon ‘Rockin ’In The Free World’ a ‘Devil’s Sidewalk’ mewn sawl digwyddiad gwleidyddol, gan gynnwys mewn rali yn Oklahoma ar Fehefin 20.

Mae’r cerddor o Ganada wedi dechrau achos cyfreithiol yn erbyn ymgyrch yr Arlywydd ac yn edrych am iawndal o $150,000 (£113,000).

Dywed Neil Young nad yw am i’w ei gerddoriaeth i gael ei defnyddio fel cân thema ar gyfer “ymgyrch ymrannol an-Americanaidd o anwybodaeth a chasineb”.

“Dychmygwch sut deimlad yw hi i glywed ‘Rockin’ In The Free World’ ar ôl i’r Arlywydd siarad, fel mai cân thema iddo ef yw hi,” meddai.

“Wnes i ddim ysgrifennu’r gân ar gyfer hynny.”

Mae disgwyl i’r etholiad Arlywyddol gael ei gynnal fis Tachwedd, a hynny er i’r Arlywydd Tump awgrymu y gall yr etholiad gael ei ohirio yn sgil y coronafeirws

Cwynion blaenorol

Yn 2015, cwynodd Neil Young fod ei sengl ‘Rockin’ In The Free World’, wedi ei defnyddio heb ei ganiatâd yn ymgyrch arlywyddol gyntaf Donald Trump.

Mynnodd yr ymgyrch bryd hynny eu bod nhw wedi cael caniatâd i ddefnyddio’r gerddoriaeth.

Mae artistiaid eraill hefyd wedi cwyno ar ôl i’w caneuon gael eu chwarae yn nigwyddiadau’r Arlywydd Trump.

Yn gynharach eleni cwynodd y Rolling Stones am ddefnydd yr Arlywydd o’u cân ‘You Can’t Always Get What You Want’ mewn rali.