Mae’r prif weinidog Mark Drakeford a’r Ysgrifennydd Gwladol Simon Hart wedi cynnal yr ail Uwchgynhadledd Tomenni Glo ers tirlithriad Tylorstown yn ystod llifogydd mis Chwefror eleni.

Cafodd y tirlithriad yn Tylorstown yn Rhondda Cynon Taf ei achosi gan law trwm ac ers hynny, mae’r gwaith o glirio’r 60,000 tunnell o rwbel wedi cychwyn.

Roedd Gweinidogion Llywodraeth Cymru, Arweinydd Rhondda Cynon Taf a chynrychiolwyr o lywodraeth leol, yr Awdurdod Glo a Chyfoeth Naturiol Cymru hefyd yn rhan o’r Uwchgynhadledd.

Eglurodd y Prif Weinidog bod y cydweithrediad yma â awdurdodau gwahanol ochr yn ochr â Llywodraethau Cymru a’r DU “wedi bod yn rhagorol.”

“Mae sicrhau nad yw cymunedau Cymru’n cael eu heffeithio’n annheg gan waddol y pyllau glo – o bersbectif diogelwch ac ariannol – yn fater o gyfiawnder cymdeithasol,” meddai Mark Drakeford.

“Maen nhw i gyd wedi gweithio’n galed i sicrhau bod y camau gweithredu ymarferol wedi bod yn bosib, er gwaethaf heriau’r coronafeirws.

“Rhaid i ni symud yn gyflym i gwblhau’r gwaith fel bod ein cymunedau ni sy’n byw yn eu cysgod yn teimlo’n ddiogel heb boeni.”

Ymrwymiad Llywodraeth y Deyrnas Unedig

“Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi ymrwymo’n llwyr o hyd i weithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, yr Awdurdod Glo a phartneriaid eraill i sicrhau bod tomenni glo Cymru’n cael eu rheoli’n briodol a bod y cyhoedd yn cael gwybod am eu diogelwch,” meddai Simon Hart, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

“Cadarnhaodd yr uwchgynhadledd yr angen i bob ochr gyfrannu’n weithredol ac yn effeithiol at y gwaith hwn, sydd wedi parhau drwy argyfwng y coronafeirws, fel bod cymunedau ein pyllau glo ni’n cael eu cadw’n ddiogel.”