Bydd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu yn cyfarfod heddiw (dydd Mercher, Awst 5) i drafod sut mae’r coronafeirws wedi effeithio ar newyddiaduraeth a’r cyfryngau lleol yng Nghymru.
Daw’r drafodaeth wedi i nifer o gwmnïau gyhoeddi eu bwriad o dorri swyddi, gyda sawl cyhoeddiad lleol yn dod i ben.
Cyhoeddodd cwmni Reach yn ddiweddar eu bod nhw am dorri 550 o swyddi ar draws y cwmni.
Mae perchnogion y Daily Mirror a’r Daily Express hefyd yn berchen ar y Western Mail, y Daily Post, y South Wales Echo a’r South Wales Evening Post.
Mewn llythyr i’r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, mae undeb yr NUJ yn nodi bod tua 90 o newyddiadurwyr yng Nghymru yn wynebu colli eu swyddi – 70 yn y de ac 20 yn y gogledd.
“Mae’n anochel y bydd y gostyngiad yn cael effaith niweidiol ar y wasg yng Nghymru,” meddai’r llythyr.
“Nid oes golygydd bellach wedi’i leoli yng Nghaerdydd, a bydd yr adran yn cael ei rhedeg gan Marketplace Publisher sydd wedi’i leoli yn Birmingham.
“Yn y cyfamser, mae golygydd y Daily Post wedi’i dynnu o’i swydd ar fyr rybudd ac mae’r busnes yn cael ei redeg gan Marketplace Publisher sydd wedi’i leoli yng ngogledd orllewin Lloegr.”
‘Bygythiad i ddemocratiaeth Cymru’
Mewn cyfweliad â chylchgrawn Golwg fis diwethaf dywedodd Martin Shipton, Prif Ohebydd y Western Mail, fod cynlluniau’r cwmni i gael gwared ar swyddi newyddiadurwyr yn y wlad hon yn “fygythiad mawr i gyfryngau Cymru, ac i ddemocratiaeth Cymru”.
Wrth drafod y sefyllfa, tynnodd Martin Shipton sylw at ffaith “ddiddorol” sydd wedi dod i’r fei, sef bod y cwmni wedi disgwyl gorfod cyflwyno camau – Covid neu beidio – ymhen dwy neu dair blynedd.
“Felly yn ei hanfod, maen nhw’n ceisio rheoli dirywiad [y cwmni],” meddai’r newyddiadurwr.
“Ac rydym yn gresynu hynny.”
Mae disgwyl i ragor o swyddi gael eu torri yn y diwydiant.
Mae BBC Cymru eisoes wedi cyhoeddi bydd rhaid cwtogi tua 60 o swyddi erbyn gwanwyn y flwyddyn nesaf yn sgil y coronafeirws.
Gallai hyn arwain at ostyngiad o tua 6% yng ngweithlu BBC Cymru.