Mae gwyntoedd cryfion wedi arwain at sawl tân sydd wedi anafu 22 o bobol a gorfodi miloedd yn rhagor i adael eu cartrefi ym Marseille.

Mae sawl busnes wedi’u dinistrio ar ôl i ryw 1,800 o ddiffoddwyr geisio diffodd y fflamau gyda chymorth awyrennau a hofrenyddion.

Roedd sawl tân yn dal i losgi ar ôl 14 awr, ac fe wnaeth y fflamau ledu o ardal goediog tua’r môr ryw bum milltir i ffwrdd.

Dydy hi ddim yn glir eto beth oedd wedi achosi’r tân.

Cafodd wyth o drigolion ac 14 o ddiffoddwyr eu hanafu yn y digwyddiad oedd yn cynnwys chwe thân mewn sawl tref gyfagos.

Mae’r awdurdodau wedi gwahardd pobol rhag cynnau tanau wrth i wyntoedd cryfion barhau ar draws yr ardal.