Mae Beirut, prifddinas Libanus, yn cyfri’r gost yn dilyn ffrwydrad sydd wedi lladd dwsinau o bobol ac anafu miloedd yn rhagor.
Fe fydd tridiau o alaru’n dechrau heddiw (dydd Mecher, Awst 5) wrth i fwg godi o hyd dros y ddinas, ac mae’r strydoedd yn llawn rwbel a cherbydau ac adeiladau wedi’u dinistrio.
Mae’r ysbytai dan eu sang, a theuluoedd yn apelio am wybodaeth am anwyliaid.
Yn ôl yr awdurdodau, mae o leiaf 70 o bobol wedi’u lladd a 3,000 wedi’u hanafu ond mae disgwyl i’r ffigurau gynyddu wrth i’r awdurdodau gael darlun mwy eglur o’r sefyllfa.
Digwyddodd y ffrwydrad – oedd yn debyg i ddaeargryn yn mesur 3.5 ar raddfa Richter – yn dilyn tân ger storfa gemegion.
Yn ôl adroddiadau, cafodd y ffrwydrad ei deimlo mor bell i ffwrdd â Chiprys – 180 o filltiroedd i ffwrdd.
Fe fydd y ffrwydrad yn rhoi mwy o bwysau ar wlad sydd eisoes yn dioddef gwasgfa ariannol sydd wedi arwain at brotestiadau mawr dros y misoedd diwethaf.
Ac mae ysbytai’r ddinas eisoes dan bwysau hefyd wrth geisio ymateb i achosion o’r coronafeirws.