Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cydweithio â’r archfarchnad Aldi i ddatblygu academi bwyd a menter wledig newydd o’r enw Canolfan Tir Glas ar gampws y Brifysgol yn Llanbedr Pont Steffan.
Mae Canolfan Tir Glas yn rhan o ymrwymiad hirdymor y Brifysgol i’r dref ac i’w gweledigaeth i gyfrannu’n sylweddol at adfywiad economaidd y dref a’r cyffiniau.
“Mae’r bartneriaeth agos rhwng y Brifysgol ac Aldi yn cynnig cyfle i ddatblygu gweledigaeth gyffrous ar gyfer Llanbed a’r cyffiniau,” meddai Emyr Jones, Pennaeth Datblygu Eiddo’r Brifysgol.
“Mae’n fodd o bontio campws y Brifysgol â’r gymuned gan hefyd weithredu fel catalydd ar gyfer datblygiadau pellach yn ymwneud â’r diwydiant bwyd yn y sir.”
Creu 40 o swyddi
Yn ôl y Brifysgol, bydd y pentref bwyd yn adeiladu ar lwyddiant yr Ŵyl Fwyd flynyddol gan weithredu fel llwyfan i ddathlu a marchnata’r diwydiant bwyd llewyrchus sydd eisoes yn bodoli yng Ngheredigion ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Bydd hefyd yn creu hyd at 40 o swyddi newydd i’r ardal.
Y bwriad yw lleoli’r pentref bwyd ar ran fechan o feysydd chwarae’r Brifysgol ym Mhontfaen – tua 30% o’r tir.
Bydd yn cynnwys archfarchnad Aldi newydd sbon ynghyd â chlwstwr o gabannau bwyd lleol o’i hamgylch i hyrwyddo cynnyrch lleol ac annog creu microfusnesau newydd.
‘Trawsnewid Llanbed’
Mae mentrau Canolfan Tir Glas a’r pentref bwyd yn rhan o ymrwymiad hirdymor y Brifysgol i Lambed fel un o sefydliadau craidd y dref.
“Mae’r Brifysgol yn awyddus i ymateb i rai o’r heriau y tynnwyd sylw atynt mewn cyfarfodydd diweddar o’r ymgyrch ‘Trawsnewid Llanbed,” eglura Gwilym Dyfri Jones, Profost y Campws.
“Dros y degawd diwethaf mae’r Brifysgol wedi buddsoddi dros £10m yn isadeiledd y campws a bydd yn parhau i wneud hynny yng nghyswllt prosiectau penodol megis mentrau Canolfan Tir Glas a’r pentref bwyd a fydd yn caniatáu i’r campws dyfu yn y dyfodol.
“Er mwyn i Lambed oroesi mae’n rhaid iddi newid a manteisio ar unrhyw gyfleoedd a allai ddod i’w rhan. Nid yw’r status quo yn opsiwn.”
‘Mae’n dal i fod yn gynnar yn y broses’
Dywed Rob Jones, Cyfarwyddwr Eiddo Rhanbarthol Aldi, eu bod nhw’n hapus i gydweithio â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Mae’n dal i fod yn gynnar yn y broses,” meddai.
“Fodd bynnag, rydym yn edrych ymlaen at gydweithio’n agos â’r Brifysgol i sicrhau bod buddion ein cynigion ar y cyd – megis mwy o ddewis o siopau yn lleol, nifer sylweddol o swyddi sy’n talu’n dda.
“Ar hyn o bryd mae cwsmeriaid yn teithio i Gaerfyrddin a thu hwnt i fanteisio ar arlwy siopau bwyd disgownt, felly bydd hyn yn welliant sylweddol o ran amserau teithio, a hefyd yn annog rhagor o bobl i aros yn lleol i siopa trwy deithiau cysylltiedig i’r pentref bwyd a siopau eraill yn y dref.”
Bydd yr archfarchnad yn cynnal ymgynghoriad yn fuan i ddarparu rhagor o wybodaeth a chael adborth lleol am y cynlluniau.