Mae Gweinidogion Cymru wedi cyhoeddi pecyn sefydlogi newydd gwerth £800m i helpu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru i barhau i ymateb i argyfwng y coronafeirws ac adfer o’i effaith.

Mae’r pecyn diweddaraf hwn yn cymryd cyfanswm y cymorth COVID-19 gan Lywodraeth Cymru i sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd i dros £1.3bn.

Bydd yr £800m yn helpu sefydliadau’r Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru i baratoi ar gyfer yr heriau sy’n cael eu rhagweld ar gyfer y gaeaf, sef ymateb i ail don bosibl o’r feirws ochr yn ochr â phwysau arferol y gaeaf, wrth barhau i gynyddu mynediad at wasanaethau hanfodol.

Darparu cyflenwadau digonol

Mae cynlluniau ar gyfer y cyllid newydd yn cynnwys cyflwyno dull strategol o gaffael cyfarpar diogelu personol ar gyfer y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, fel y gellir cael cyflenwad priodol wrth gefn i ymateb i ail don o achosion.

Bydd hefyd yn sicrhau bod cyflenwad dibynadwy o gyfarpar diogelu personol ar gael i ddarparwyr gofal sylfaenol, gan gynnwys meddygon teulu, deintyddion ac optometryddion.

Bydd y cyllid newydd hwn hefyd yn helpu i gyflawni ymgyrch frechu fwyaf erioed Cymru rhag y ffliw, a gafodd ei chyhoeddi fis diwethaf.

Bydd yr ymgyrch hon yn sicrhau bod mwy o bobol nag erioed yn elwa ar y rhaglen frechu am ddim rhag y ffliw wrth baratoi ar gyfer y gaeaf.

Gyda phosibilrwydd go iawn o ragor o achosion yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, bydd y buddsoddiad hwn hefyd yn sicrhau bod canlyniadau profion yn cael eu dychwelyd yn gynt er mwyn cefnogi’r gwaith o olrhain cysylltiadau fel y gall Cymru ymateb yn gyflym i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Bydd hefyd yn helpu i ddarparu digon o gapasiti i fyrddau iechyd, ar safleoedd ysbytai sy’n bodoli eisoes ac mewn ysbytai maes wrth gefn, os oes angen.

Sefydlogrwydd

“Rydym yn cydnabod y pwysau ariannol cynyddol a’r heriau a wynebir ar draws y sector cyhoeddus ac rydym yn gwneud popeth posibl i liniaru’r rhain,” meddai Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid.

“Rydw i’n hyderus y bydd cyhoeddiad heddiw yn rhoi’r sefydlogrwydd sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd  i ymateb i’r pandemig.

“Rydyn ni hefyd yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i ddeall y pwysau sylweddol y maen nhw’n eu hwynebu a’u blaenoriaethau fel y gallwn ni roi rhagor o gymorth iddyn nhw.”

‘Paratoi’n drwyadl’

“Mae ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol wedi wynebu pwysau na welwyd mo’u tebyg o’r blaen yn y frwydr yn erbyn COVID-19,” meddai Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

“I’n staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd y mae’r diolch bod cleifion Cymru wedi parhau i gael gofal tosturiol a phroffesiynol yn ystod y pandemig hwn.

“Er bod ein gwasanaethau’n paratoi’n drwyadl bob blwyddyn ar gyfer pwysau’r gaeaf, fe allai 2020 fod yn wahanol iawn i unrhyw flwyddyn arall. Bydd y pecyn gwerth £800m hwn yn helpu gyda llawer o agweddau wrth inni symud ymlaen i gam nesaf y frwydr yn erbyn y feirws, fel cyflenwadau cyfarpar diogelu personol, profi a rhaglen frechu uchelgeisiol yn erbyn y ffliw.”