Mae Chwarae Cymru yn galw ar deuluoedd a chymunedau ledled Cymru heddiw (dydd Mercher, Awst 5) i ymuno â’r dathliad o chwarae ar riniog eu drws a chlapio, bloeddio, curo sosbannau, a ‘Gwneud Sŵn Mawr dros Ddiwrnod Chwarae’.

Mae cydnabod pwysigrwydd chwarae plant a chefnogi plant i chwarae mewn ffyrdd dibryder, ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd, yn bwysicach nag erioed yn ôl y mudiad.

Mae thema Diwrnod Chwarae eleni, ‘Rhyddid Bob Dydd, Anturiaethau Bob Dydd’ yn pwysleisio pwysigrwydd rhoi rhyddid i blant chwarae a chael anturiaethau bob dydd.

O ystyried yr heriau sydd wedi’u hwynebu gan blant eleni oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth, mae’r ymgyrch yn canolbwyntio ar nodweddion unigryw chwarae sy’n helpu plant i wneud synnwyr o’r byd o’u hamgylch a gall leddfu eu straen a’u pryder, yn enwedig yn ystod cyfnodau ansicr.

Mae mudiad Chwarae Cymru yn pwysleisio pwysigrwydd chwarae gan ei fod yn:

  • Mae chwarae yn hwyl ac yn ganolog i hapusrwydd plant
  • Mae chwarae yn helpu iechyd a lles corfforol, meddyliol ac emosiynol plant
  • Mae chwarae yn cryfhau gwytnwch plant, gan eu galluogi i ymdopi gyda straen, gorbryder a heriau
  • Mae chwarae yn cefnogi plant i ddatblygu hyder, creadigedd a sgiliau datrys problemau
  • Mae chwarae yn cyfrannu at ddysg a datblygiad plant.

Chwarae yn ‘allweddol’

“Efallai y bydd Diwrnod Chwarae eleni’n wahanol i’r 32 blynedd flaenorol – ond mae plant a phlant yn eu harddegau yn dal eisiau ac angen cyfleoedd a rhyddid i chwarae,” meddai Mike Greenaway, Cyfarwyddwr Chwarae Cymru.

“Mae chwarae’n allweddol ar gyfer plentyndod hapus ac iach. Mewn adegau o straen ac ansicrwydd, mae chwarae’n cael effaith cadarnhaol ar iechyd, lles a datblygiad corfforol ac emosiynol plant ac, yn bwysicaf oll, ar eu hapusrwydd.

“Fel cymdeithas, yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, mae angen inni gydnabod a gwerthfawrogi, fwy nag erioed, bod gan bob plentyn hawl i chwarae – ar Ddiwrnod Chwarae a bob dydd o’r flwyddyn. Ymunwch â ni heddiw i Wneud Sŵn Mawr Dros Ddiwrnod Chwarae – y mwyaf o leisiau fydd yn galw gyda ni i gynnal hawl plant i chwarae, y cryfaf fydd ein neges.”