Mae Kevin ‘Kev’ Johns, diddanwr a chyflwynydd radio adnabyddus o Abertawe, wedi cael ei gyhuddo o ymosod yn anweddus ar fachgen dan 16 oed yn y 1980au.

Aeth y dyn 59 oed sy’n byw yn ardal Gorseinon y ddinas gerbron ynadon ddoe (dydd Mawrth, Awst 4) i wynebu dau gyhuddiad.

Yn ogystal â bod yn gyflwynydd radio poblogaidd, mae hefyd yn weinidog, yn ddiddanwr pantomeim ac yn gyhoeddwr stadiwm yng ngemau pêl-droed Abertawe yn y Liberty.

Mewn datganiad, dywed cwmni Bauer Media, sy’n berchen ar orsaf radio Sain Abertawe, y bydd e’n treulio amser i ffwrdd o’r orsaf er mwyn canolbwyntio ar ymchwiliad yr heddlu.