Bu ffrwydrad mawr yn Beirut, gan ddymchwel llawer o’r porthladd a difrodi adeiladau wrth i gwmwl anferth godi uwchlaw’r brifddinas.

Gwelodd tystion lawer o bobl wedi’u hanafu gan wydr a malurion.

Dywedodd un ei fod yn teimlo fel “bom niwclear”.

Mae’r ffrwydrad wedi achosi difrod ar draws y ddinas, gan chwalu ffenestri mor bell â 1.2 milltir i ffwrdd.

Roedd gŵr lleol, Fady Roumieh, yn sefyll ym maes parcio canolfan siopa tua 2 gilomedr i’r dwyrain o’r ffrwydriad. Dywedodd: “Roedd fel bom niwclear.”

“Mae’r difrod yn ddifrifol ac yn eang – ym mhob cwr o’r ddinas.

“Mae rhai adeiladau mor bell â 2km wedi’u dymchwel yn rhannol.

“Mae fel sefyllfa ryfel. Mae’r difrod yn eithafol. Dim un ffenest wydr yn gyfan. ”

Dywedodd Mr Roumieh mai porthladd y ddinas oedd y canolbwynt, o beth oedd e’n gallu gweld.

Ychwanegodd fod y digwyddiad yn waeth fyth oherwydd sefyllfa wleidyddol bresennol y ddinas – sydd yng nghanol pandemig y coronafeirws.

“Y trawma emosiynol i’r ddinas hon sydd waethaf,” ychwanegodd.

“Ar ben y pandemig… y chwalfa economaidd… a’r dadbrisio arian.”

Daw ar adeg pan fo Lebanon yn mynd drwy ei argyfwng economaidd ac ariannol gwaethaf ers degawdau.

Daw hyn hefyd yng nghanol tensiynau cynyddol rhwng Israel a’r grŵp milwriaethus Hezbollah ar hyd ffin ddeheuol Libanus.

Mae fideos ar-lein yn dangos colofn o fwg yn codi o ardal y porthladd a ffrwydriad anferthol a anfonodd gwmwl anferth i bobman.

Mae rhai gorsafoedd teledu lleol wedi adrodd bod y ffrwydrad mewn ardal lle storiwyd tân gwyllt, ond nid yw achos y ffrwydrad yn glir ar hyn o bryd.

Fe fydd tridiau o alaru’n dechrau dydd Mecher, Awst 5.