Mae traean o Gymry’n dweud iddyn nhw gyfarfod â’u cymdogion am y tro cyntaf yn ystod cyfnod clo’r coronafeirws, yn ôl ymchwil newydd.

Cafodd arolwg ei gynnal o 3,000 o drigolion gwledydd Prydain ar wefan Internal Wall Panels i ddarganfod faint ohonyn nhw gafodd eu sgwrs cyntaf gyda’u cymydog yn ystod y cyfnod clo.

Mae gorfod aros dan do tra’n ymbellhau’n gymdeithasol yn ystod y pandemig yn golygu bod yn greadigol wrth gyfathrebu gyda theulu a ffrindiau, drwy alwadau fideo ayyb.

Ond hefyd, mae wedi bod yn gyfle perffaith i ddod i adnabod yr unigolyn neu’r bobl sy’n byw yn y cartref nesaf atoch, gan ystyried eich bod yn debygol o fod yno’n amlach na’r arfer.

Arolwg

Mae’n ymddangos bod aros adref wedi cael dylanwad cadarnhaol ar berthnasoedd cymdogol yng Nghymru, gan fod 1 o bob 3 (34%) yma wedi cyfaddef iddyn nhw gwrdd â’u cymydog am y tro cyntaf erioed yn ystod y clo.

Wedi’i rannu ar draws y wlad, roedd y ffigur isaf yn Nwyrain Canolbarth Lloegr gyda dim ond 23% o drigolion yn dweud eu bod wedi cyfarfod â’u cymydog am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod cloi, o’i gymharu a’r  ffigur uchaf yn Llundain gyda 45% o bobl yn dweud iddyn nhw gwrdd a’u cymdogion am y tro cyntaf.

Estyn help llaw

Er ei bod yn ymddangos  fod clo mawr wedi gwella ein cyfathrebu gyda’n hanwyliaid – a chymdogion – nid oes amheuaeth am yr heriau economaidd y mae llawer yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod hwn. Yn wir, rhwng mis Mawrth a mis Mehefin, gostyngodd nifer y gweithwyr yn y Deyrnas Unedig ar cyflogres i 649,000.

Ond, mae’n ymddangos fod dros 1 o bob 3 person (39%) yn dweud y bydden nhw’n benthyg arian i gymydog a oedd yn cael trafferth ariannol.

Hefyd,  canfu’r arolwg y byddai dros 1 o bob 10 (13%)o’r  ymatebwyr yn estyn allan at eu cymydog am gymorth ariannol mewn cyfnod o anobaith.

Ystadegyn a ddeilliodd o’r astudiaeth hon oedd bod mwyafrif o Brydeinwyr hyd yn oed yn ddigon hael i gartrefu cymydog mewn angen, gyda 60% yn dweud y bydden nhw’n gwirfoddoli i gartrefu eu cymydog dros dro os nad oedd ganddo unman arall i aros.