Cafodd un alpaca gwrywaidd ac un benywaidd eu geni ar dir Llwyfan Ymchwil yr Ucheldir Pwllpeiran ac mae’r ddau cria, fel y’u gelwir, yn ymgartrefu’n hapus ym Mynyddoedd y Cambria.

Dyma’r cria cyntaf erioed i gael eu geni ar dir y Brifysgol a’u cofrestru o dan enw rhagddodiad bridfa newydd y ganolfan, sef ‘Peiran’.

Mae Peiran Champagne a Peiran Cosmopolitan yn ymuno a buches fach o alpaca a gyrhaeddodd Pwllpeiran ym mis Hydref 2019 fel rhan o brosiect ymchwil newydd.

Bwriad y gwyddonwyr yw gweld a yw alpaca De America yn gweddu i fywyd ym mryniau Cymru ac a yw’n cynnig cyfleoedd newydd ar gyfer ffermio ar yr ucheldiroedd.

Alpaca yn cynnig ‘dewis arall’ i ffermwyr mynydd

Mae’r ymchwil yn cael ei arwain gan Dr Mariecia Fraser yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran, sy’n rhan o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS).

“Rydym yn byw mewn cyfnod o newid o ran ffermio ar ucheldiroedd Cymru,” meddai.

“Y disgwyl yw y bydd y rownd nesaf o daliadau cymorth yn annog symud i ffwrdd oddi wrth gynhyrchu amaethyddol sylfaenol tuag at gadwraeth natur a lleihau carbon.

“Wrth sefydlu buches ymchwil o alpaca yn Pwllpeiran, rydym am weld a all yr alpaca gynnig dewis arall hyfyw i ffermwyr mynydd yn lle defaid.

“Yn ogystal â chynhyrchu ffeibr o ansawdd uchel, mae camelidau fel yr alpaca wedi esblygu ac addasu i fyw ar weunwelltydd o ansawdd gwael yn yr Andes, ac maen nhw’n hapus i fwyta glaswelltau mewnlifol fel Molinia.

“Mae’r porthiant yma’n tyfu’n helaeth ar ucheldiroedd Cymru ond dyw e ddim fel rheol at ddant ein defaid brodorol. Byddwn yn edrych ar effaith eu pori ar y tri a sut bydden nhw’n asio gyda phatrymau ffermio traddodiadol yma.”