Mae Maer Abermaw yn dweud bod “mwy o bobol yn golygu mwy o risg”, wrth ymateb i farwolaeth dyn 36 oed yno dros y penwythnos.

Bu farw Jonathan Stevens o Telford yn Sir Amwythig ddydd Sul (Awst 2).

Cafodd yr heddlu a gwylwyr y glannau eu galw ychydig funudau cyn 2 o’r gloch y prynhawn.

Roedd wedi cael ei ddal mewn llanw terfol wrth iddo geisio tynnu rhai o’i blant o’r dŵr.

Cafodd ei gludo i Ysbyty Gwynedd gan Ambiwlans Awyr ond bu farw’n ddiweddarach.

Mewn datganiad i wefan North Wales Live, dywedodd ei bartner Laura Burford, 34, oedd gartref pan ddigwyddodd hyn oll nad oes “dim geiriau i ddisgrifio’r boen”.

“Mae pob un o’i saith o blant wedi colli eu tad. Buodd farw yn achub bywydau ei blant yn y môr,” meddai.

“Rwyf yn ei garu, wastad wedi ei garu a byddai’n ei garu am byth.”

“Mwy o bobol yn golygu mwy o risg” – Maer Abermaw

Mae Katie Price, Maer Abermaw, wedi ymateb i farwolaeth Jonathan Stevens drwy ddweud wrth golwg360 bod “mwy o bobol yn golygu mwy o risg.”

Daw hyn wrth i fwy o ymwelwyr deithio i arfordir Cymru, gyda chyfyngiadau’r cloi mawr yn cael eu llacio.

Ond dywed fod yr awdurdodau lleol yn gwneud “popeth allwn ni i gadw pobol yn saff”.

“Mae gennym ni arwyddion sy’n rhybuddio pobol am y môr, pob math o wybodaeth addysgiadol ar ein gwefan a nifer fawr o staff sy’n gweithio i sicrhau diogelwch pobol,” meddai.