Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn bwriadu cymryd yr awenau fel rheoleiddiwr amgylcheddol Ffatri Byrddau Gronynnau Kronospan yn y Waun ger Wrecsam.

Daw’r cyhoeddiad yn dilyn y penderfyniad i fwrw ymlaen â chyfuno’r trwyddedau amgylcheddol cyfredol sydd yn cael eu dal gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Cyfoeth Naturiol Cymru yn un drwydded a gaiff ei rhoi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y penderfyniad yn galluogi CNC i gymryd drosodd y broses o reoleiddio’r safle cyfan, gan gynnal yr holl swyddogaethau rheoleiddio mewn perthynas â’r drwydded gyfunol.

Sicrhau’r arferion Ewropeaidd gorau diweddaraf

“Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen i’r sefydliad, gan ei fod yn dod yn dilyn cyfarwyddeb gan Lywodraeth Cymru yn 2018,” meddai David Powell, Rheolwr Gweithrediadau CNC ar gyfer Gogledd Ddwyrain Cymru.

“Bydd cyfuno trwydded amgylcheddol Kronospan yn ein galluogi ni, fel y rheoleiddiwr, i sicrhau bod y ffatri’n cydymffurfio â’r safonau perthnasol a bod y drwydded yn cynnwys yr arferion gorau Ewropeaidd diweddaraf, ynghyd â’r terfynau cysylltiedig o ran allyriadau.

“Wrth i ni symud ymlaen gyda’r broses o gyfuno’r drwydded, byddwn yn parhau i ymgysylltu â Kronospan ac rydym yn parhau’n ymrwymedig i ymgynghori â’r cyhoedd ar ein penderfyniad drafft a fydd ar gael erbyn diwedd 2020.”

Mae’r cam hwn ymlaen yn rhan o gynllun arfaethedig ehangach ar gyfer y safle sy’n cynnwys cais Kronospan am linell gynhyrchu Preniau Fflawiau Cyfeiriedig (OSB) newydd. Fodd bynnag, mae penderfyniad CNC ar gyfer y cais hwn wedi’i ohirio oherwydd pandemig COVID-19.