Bydd canolfan gwasanaeth cwsmeriaid BT ym Mangor yn cael ei hailddatblygu’n sylweddol, yn dilyn cyhoeddiad heddiw (dydd Mawrth, Awst 4) fod y cwmni am fuddsoddi yn y safle.

Bydd yr adeilad – a gafodd ei godi yn wreiddiol ym 1957 ac sydd wedi’i leoli yng nghanol y ddinas – yn cael ei adnewyddu’n llawn er mwyn ei foderneiddio a chreu lle gwaith gwell i’r oddeutu 150 o staff sydd wedi’u lleoli ar y safle ar hyn o bryd.

Bangor yw’r lleoliad allweddol diweddaraf i gael ei gyhoeddi fel rhan o raglen sylweddol i wella safleoedd gwaith y cwmni ledled y Deyrnas Unedig.

Bydd y rhaglen bum mlynedd yn gwella ac yn lleihau nifer y lleoliadau sydd gan BT, gan symud o fwy na 300 o leoliadau ledled y Deyrnas Unedig i oddeutu 30.

Mae disgwyl i’r gwaith ar adnewyddu adeilad BT Bangor ddechrau ar ddiwedd y flwyddyn, i’w gwblhau yn gynnar yn 2021.

Canolfan wasanaeth allweddol

Cafodd Bangor ei dewis fel lleoliad canolfan wasanaeth allweddol i BT fel rhan o’r rhaglen hon.

Mae’r ganolfan yn darparu nifer o wasanaethau arbenigol ar ran BT, yn cynnwys gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg ac ymholiadau cyfeirlyfr, gwasanaethau cwsmeriaid blychau ffôn cyhoeddus a derbyn galwadau prif switsfwrdd BT Group.

Llynedd, bu staff y ganolfan yn dathlu 25 mlynedd ers sefydlu polisi arloesol iaith Gymraeg y cwmni.

“Mae’n newyddion gwych bod Bangor wedi’i ddewis fel lleoliad allweddol i BT,” meddai Gwynedd Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd.

“Rydym yn falch bod cwmni mawr fel BT yn buddsoddi ym Mangor ac yn moderneiddio ei gweithle yng nghanol y ddinas.

“Mae hyn yn dda ar gyfer swyddi sgiliau uchel, i’r ddinas a’r rhanbarth yn ehangach. Gobeithio y bydd hyn yn hwb hefyd i ddarpariaeth gwasanaethau Cymraeg drwy’r ganolfan.”

‘Modern a thrawiadol’

Dywed Mike Cook, rheolwr gyfarwyddwr gwasanaethau cwsmeriaid BT, y bydd eu hadeilad ar ei newydd wedd ym Mangor yn dod â phobol ynghyd mewn amgylchfyd “modern a thrawiadol, gan drawsnewid y ffordd rydym yn gweithio”.

“Bydd hefyd yn dod yn lleoliad allweddol i BT Group yng Nghymru, sy’n newyddion cyffrous,” meddai.

“Bydd ein cydweithwyr ym Mangor yn elwa o weithio mewn swyddfa sy’n addas ar gyfer y dyfodol mewn lleoliad yng nghanol y ddinas.”