Mae’r Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething wedi cyhoeddi cyngor newydd ynglŷn â phryd y dylai unrhyw un sy’n huanynysu gartref gyda Covid-19 gael cymorth meddygol.

Mae Vaughan Gething yn annog unrhyw un sy’n hunanynysu gartref gyda COVID-19 i ffonio 111 neu gysylltu â’u meddyg teulu os nad yw eu symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod.

Mae hefyd yn annog pobol sydd â diffyg anadl neu’n chwydu, neu os yw blinder yn atal y person rhag gwneud eu gweithgareddau arferol i wneud yr un peth.

Dysgu o’r don gyntaf

Eglurodd Vaughan Gething fod y cyngor newydd yn adlewyrchu’r hyn a gafodd ei ddysgu o’r don gyntaf.

“Mae’n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu o’n profiad cynnar o’r feirws ac yn defnyddio hyn i helpu i lywio ein hymateb i donnau’r pandemig yn y dyfodol,” meddai.

“Mae’n bwysig nad yw pobol yn ceisio ymdopi’n rhy hir ar eu pennau eu hunain ac yn peidio â’i gadael yn rhy hwyr i gael help.

“Os nad yw eich symptomau’n gwella ar ôl saith diwrnod neu os oes gennych unrhyw un o’r symptomau penodol hyn, ein cyngor yw cysylltu ag 111 neu â’ch meddyg teulu.”