Mae’r Farwnes Eluned Morgan wedi rhybuddio y gallai busnesau yng Nghymru sy’n anwybyddu cyfyngiadau’r coronafeirws gael eu cau.
“Rhaid i chi gadw pellter corfforol ar eich safle ac os ydych chi’n fusnes lletygarwch, dylech chi gadw manylion cyswllt eich cwsmeriaid,” meddai, gan gyfeirio at dafarnau, caffis, bwytai a gwestai.
Mae hi’n annog cwsmeriaid i ddweud wrth fusnesau os nad ydyn nhw’n cael cais i adael eu manylion cyswllt gyda nhw.
Dim ond gydag aelodau’r un aelwyd y dylid cyfarfod yn y fath lefydd, meddai.
“Mae’r rhan fwyaf ohonom yn dilyn y gyfraith ac yn helpu i atal y feirws rhag lledu,” meddai yng nghynhadledd ddyddiol Llywodraeth Cymru.
“Ond hoffwn orffen drwy ddweud hyn wrth leiafrif bach – yn bobol ac yn fusnesau – nad ydyn nhw [yn cadw at y rheolau] – byddwn ni’n gweithredu er mwyn gorfodi’r rheolau yng Nghymru.”
Yn ôl y gyfraith, mae gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a’r heddlu yr hawl i gymryd camau yn erbyn unrhyw un sy’n torri’r rheolau ac yn peryglu iechyd pobol eraill.
“Bydd newidiadu i’r pwerau hynny yr wythnos hon yn golygu bod hyn yn cynnwys cau safleoedd pe bai’n angenrheidiol,” meddai wedyn.