Mae WH Smith wedi cyhoeddi bod disgwyl i 1,500 o swyddi fynd yn sgil adferiad “araf” ar ôl y coronafeirws.

Mae ymgynghoriad eisoes ar y gweill i roi gwybod i staff am gynlluniau i dorri swyddi fel rhan o gynllun ehangach i leihau costau.

Mae siopau’r cwmni mewn meysydd awyr a gorsafoedd rheilffordd wedi’u taro’n arbennig o wael gan ddiffyg cwsmeriaid yn sgil cyfyngiadau teithio, ac mae llai o bobol wedi bod yn mynd i siopau’r stryd fawr ers yr ymlediad.

Mae ychydig yn fwy na hanner siopau’r cwmni mewn cyrchfannau teithio wedi agor eto, ac mae 246 o brif safleoedd y cwmni wedi dechrau masnachu eto.

Mae pob un o 575 o siopau’r stryd fawr wedi agor.

Ond mae refeniw’r cwmni i lawr 57% o’i gymharu â mis Gorffennaf y llynedd.

Mae refeniw teithio’r cwmni i lawr 92% o’r un cyfnod y llynedd, a gwerthiant bron i 75% yn is ar gyfer mis Gorffennaf.

Aeth busnes y stryd fawr i lawr o 71% ym mis Ebrill a 25% ym mis Gorffennaf o gymharu â’r un misoedd y llynedd.

Mae disgwyl i’r cwmni wneud colled cyn treth o £70-75m ar gyfer y flwyddyn hyd at Awst 31.